Rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod – ar y tir
“Fe all natur ofalu amdani ei hun – mae
hi wedi bod yn gwneud hynny ers miliynau o flynyddoedd.”
Ond a yw hyn yn wir bellach? Oherwydd yr effaith y mae pobl
yn ei chael ar fywyd gwyllt a chynefinoedd, erbyn hyn mae nifer o
rywogaethau angen i’r gyfraith eu gwarchod os ydyn nhw am oroesi a
ffynnu.
Mewn gwirionedd, yn ystod y 5,000 o flynyddoedd diwethaf, mae
dyn wedi datblygu ffyrdd o addasu darnau helaeth o dir, a oedd gynt
yn gynefinoedd, er mwyn tyfu bwyd. Rydym yn defnyddio
rhywogaethau di-rif at ein dibenion ein hunain.
Ers sawl canrif, mae ein niferoedd ni wedi cynyddu’n
sylweddol. Mae’r ffaith ein bod angen tai a dulliau
teithio, ynghyd ag allgynnyrch ein diwydiannau, wedi lleihau’r
cynefinoedd sydd ar gael a’r rhywogaethau a welir. Yn
wyneb y pwysau hwn, rhaid i’r gyfraith warchod nifer o
rywogaethau.
Wrth gwrs, mae gwarchod rhywogaethau prin yn golygu eu diogelu
rhag cael eu lladd; ond fe all tarfu ar eu nythod a’u cartrefi fod
yr un mor niweidiol, yn ogystal â chynnal masnach ddilywodraeth
ynddyn nhw.
Gwaith hawdd iawn yw dysgu beth yw prif bwyntiau’r gyfraith sy’n
gwarchod rhywogaethau. Yn syml, cofiwch y
canlynol:
- Mae lladd, anafu, cymryd, gwerthu, hysbysebu neu brynu
anifeiliaid gwyllt dan warchodaeth, yn fwriadol neu’n ddi-hid –
anifeiliaid fel dyfrgwn, moch daear a gwiwerod coch – yn groes i’r
gyfraith.
- Mae tarfu’n fwriadol neu’n ddi-hid arnyn nhw, neu ddifrodi eu
safleoedd bridio neu eu llochesau, hefyd yn groes i’r
gyfraith.
- Caiff pob aderyn gwyllt, eu nythod a’u hwyau, eu gwarchod, a
cheir cosbau arbennig am niweidio rhai mathau prin.
- Ddylech chi ddim casglu blodau gwyllt, na’u
gwerthu. Mae dadwreiddio planhigion gwyllt yn weithred
anghyfreithlon, heb i chi gael caniatâd y tirfeddiannwr.
- Ddylech chi ddim casglu, dadwreiddio na gwerthu rhai planhigion
dan warchodaeth heb gael trwydded.
- Mae meddu ar rywogaethau a
gaiff eu gwarchod yn groes i’r gyfraith, oni bai eich bod yn gallu
dangos eich bod wedi eu cymryd yn gyfreithlon.
Cofiwch fod modd difrodi planhigion a tharfu
ar anifeiliaid ac adar gwyllt yn hawdd iawn. Dylech bob
amser wneud cais i’r Cyngor Cefn Gwlad am drwydded os ydych angen
tarfu ar anifeiliaid neu adar dan warchodaeth, gan fod gwneud
hynny’n groes i’r gyfraith. Cofiwch y gall tynnu
lluniau darfu arnyn nhw.
Hefyd, mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn delio efo
trwyddedau ar gyfer archwilio, modrwyo neu farcio rhywogaethau dan
warchodaeth, neu ar gyfer eu lladd, eu cymryd neu feddu arnyn nhw
at ddibenion gwyddonol, addysgol neu gadwraethol.
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am
drwyddedau o fath arall, er enghraifft ar gyfer diogelu cnydau neu
iechyd y cyhoedd.