Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a’r Rheolau Cynefinoedd 1994 mae rhai ymlusgiaid ac amffibiaid wedi eu gwarchod yn arbennig.

Troseddau

Mae’n drosedd:-

  • I ladd, cymryd neu niweidio’r anifeiliaid hyn yn fwriadol.
  • I ddifrodi, ddinistrio neu greu rhwystr mewn man sy’n cael ei ddefnyddio gan y fath anifail ar gyfer bridio, gorffwys, cysgodi neu ddiogelwch, neu i aflonyddu ar anifail mewn lle o’r fath.
  • I feddu ar neu reoli’r anifeiliaid hyn – yn fyw neu’n farw, neu unrhyw ran ohonyn nhw neu unrhywbeth sy’n tarddu ohonyn nhw.
  • I gynnig gwerthu, hysbysebu i werthu neu gynnig i brynu’r anifeiliaid hyn, neu ran ohonyn nhw neu unrhywbeth sy’n tarddu ohonyn nhw.
  • Aflonyddu’n fwriadol neu gymryd yn fwriadol neu ddinistrio wyau anifail sy’n cael ei restru yn y Rheolau Cynefinoedd.


Eithriadau

  • Heblaw am ladd neu gymryd yn fwriadol, nid yw amffibiaid ac ymlusgiaid dan warchodaeth os ydyn nhw mewn tŷ ble mae rhywun yn byw.
  • Pan fo anifail yn sâl neu wedi ei anafu, gellir ei gymryd er mwyn ei drin gyda’r bwriad o’i ryddhau pan fydd yn iach, neu ei ladd os yw wedi anafu mor ddrwg fel nad oes modd iddo wella.
  • Pan fo trosedd yn digwydd yn anfwriadol wrth gyflawni gweithred gyfreithiol na fyddai modd, yn rhesymol, i’w hosgoi.
  • Os gallwch brofi bod anifail sydd wedi ei warchod wedi ei gael yn gyfreithiol, er enghraifft ar ôl damwain ffordd.


Trwydded

Dylid gwneud cais am drwydded i gynnal gweithgareddau sy’n effeithio rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod. Gellir cyhoeddi trwyddedau ar gyfer pwrpas penodol gan gynnwys astudiaeth wyddonol, ffotograffiaeth, rheolaeth cadwraeth a datblygiad. 

Mewn rhai amgylchiadau, mae modd lladd, gymryd neu aflonyddu ar amffibiaid ac ymlusgiaid sy’n cael eu cymryd dan awdurdod trwydded.

Pan fod trwydded yn awdurdodi gweithgaredd wedi ei chaniatáu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru neu Lywodraeth Cynulliad Cymru, gellir cynnal y gweithgaredd yn gyfreithiol cyn belled ag y bo amodau’r drwydded yn cael eu dilyn.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen