Rhywogaethau sy’n cael eu warchod – adar
Mae pob aderyn gwyllt, eu hwyau a’u nythod yn
cael eu gwarchod. Mae rhai adar prin yn derbyn gwarchodaeth
arbennig. Maen nhw’n cael eu rhestru mewn Atodiadyn y Ddeddf
berthnasol ac yn cael eu galw’n adar Atodiad 1.
Troseddau
Mae cosbau (yn cynnwys carchar) i’w cael am droseddau yn erbyn
rhywogaethau prin sy’n cael eu gwarchod yn arbennig. Mae
cyfyngiadau hefyd ar gadw adar Prydeinig yn gaeth.
Oni bai fod gennych chi drwydded, allwch chi ddim:
- Lladd yn fwriadol, cymryd neu feddu ar unrhyw aderyn gwyllt –
hyd yn oed er mwyn eu modrwyo.
- Defnyddio dulliau creulon o ladd neu ddal adar gwyllt.
- Cymryd, difrodi neu ddinistrio unrhyw wyau neu nyth sy’n cael
ei ddefnyddio gan aderyn gwyllt. (Mae nythod gweilch y pysgod yn
cael eu gwarchod drwy’r flwyddyn).
- Gwerthu neu ddangos mewn cystadleuaeth unrhyw aderyn gwyllt byw
(mae rhai eithriadau gyda rhai rhywogaethau os ydyn nhw wedi eu
magu mewn caethiwed ac wedi eu modrwyo).
- Gwerthu unrhyw aderyn gwyllt (oni bai am rai adar hela yn eu
tymor).
- Gwerthu wyau unrhyw rywogaeth Brydeinig o adar gwyllt.
- Aflonyddu yn fwriadol neu ddihid ar unrhyw aderyn gwyllt sy’n
cael ei warchod yn arbennig ( Atodiad 1) os yw’n adeiladu nyth, yn
nythu - nac aflonyddu ar y cywion dibynnol.
Ystyr ‘ymddygiad dihid’ yw gweithredoedd anfwriadol, pan fo’r
pobl yn dewis anwybyddu canlyniadau tebygol eu gweithredoedd neu yn
cau eu llygaid rahg y canlyniadau posib.
Eithriadau
Mae eithriadau i’r troseddau hyn :
Pan fo aderyn yn sâl neu wedi ei anafu, gellir ei gymryd er mwyn ei
drin gyda’r bwriad o’i ryddhau pan yn iach neu ei ladd os yw wedi
cael anaf mor ddrwg nad oes modd iddo wella.
Pan fo trosedd yn ganlyniad anfwriadol i weithred
gyfreithiol nad oedd modd, yn rhesymol, ei hosgoi.
Gall fod yn gyfreithlon i feddu ar adar neu eu hwyau os gallwch
brofi eu bod yn cael eu dal yn gyfreithiol – er enghraifft, os
gallwch brofi fod wyau wedi eu casglu cyn Deddf Ddiogelu Adar 1954,
neu fod aderyn wedi ei ladd mewn damwain ffordd.
Mae’n gyfreithlon i werthu cyrff adar sydd wedi eu gwarchod cyn
belled ag y bo’r gwerthwr yn rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r prynwr
yn dangos fod yr aderyn wedi ei gymryd mewn modd cyfreithlon. Rhaid
i’r prynwr hefyd ddweud am y gwerthiant wrth yr Adran Amgylchedd,
Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).
Cymryd adar yn gyfreithlon
Gall adar arbennig gael eu cymryd neu eu lladd y tu allan i’r
tymor gwaharddedig:
- Hwyaden gopog Hwyaden wyllt
- Hwyaden lostfain Hwyaden bengoch
- Hwyaden lydanbig Corhwyaden
- Chwiwell Hwyaden lwyd
- Hwyaden lygad-aur Gŵydd Canada
- Gŵydd wyllt Gŵydd Troetbinc
- Gŵydd dalcen-wen Cwtiar
- Iâr ddŵr Cwtiad Aur
- Gïach gyffredin Cyffylog
Adar dan drwydded
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn defnyddio trwydded
gyffredinol sy’n caniatáu lladd neu gymryd rhai adar, eu nythod a’u
cywion er mwyn atal difrod difrifol i amaethyddiaeth neu i warchod
iechyd a diogelwch y cyhoedd neu ddiogelu adar gwyllt:
- Brân dyddyn
- Gwylan gefnddu fwyaf
- Ydfran
- Sgrech y coed
- Gwylan gefnddu leiaf
- Ysguthan
- Colomen fferal Pioden
- Aderyn y to
- Jac-y-do
- Drudwen
- Gwylan y penwaig
- Turtur dorchog
Trwyddedau Gweithgarwch
Gyda thrwydded gan y Cyngor Cefn Gwlad neu Lywodraeth y
Cynulliad, yn caniatáu gweithgaredd penodol, mae modd cynnal y
gweithgaredd yn gyfreithlon cyn belled ag y bo amodau’r drwydded yn
cael eu dilyn.
Dylid ceisio am drwydded bob tro er mwyn cynnal gweithgaredd
sy’n effeithio ar rywogaethau sydd wedi eu gwarchod. Gellir
cyhoeddi trwyddedau at bwrpasau arbennig gan gynnwys astudiaeth
wyddonol, ffotograffiaeth, rheolaeth gadwraethol ac er mwyn atal
difrod i gnydau ac eiddo.