Rhywogaethau wedi eu gwarchod – pysgod
Mae rhai pysgod yn derbyn yr un warchodaeth â
mamaliaid o dan Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheolau
Cynefinoedd 1994. Mae eraill yn cael gwarchodaeth ychwanegol
arbennig.
Mae deddfau eraill yn ymwneud â physgod sy’n cael eu hela – fel
eog, sewin, brithyll a changen las – a physgod breision.
Troseddau
Dyma’r troseddau o dan y deddfau hyn:
- Dwyn y pysgod hyn
- Symud pysgod hela o ddŵr wedi ei stocio.
Mae troseddau eraill – fel potsian – yn cael eu cynnwys yn y
Ddeddf Eog a Physgodfeydd Dŵr Croyw, y Ddeddf Eogiaid a’r Ddeddf
Lladrad.
Trwydded
Pan fo trwydded yn awdurdodi gweithgaredd wedi ei rhoi gan
Gyngor Cefn Gwlad Cymru neu Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol,
gellir cynnal y gweithgaredd yn gyfreithiol cyn belled â bod
amodau’r drwydded yn cael eu dilyn. Gellir lladd pysgod sydd wedi
eu gwarchod mewn amgylchiadau arbennig neu eu cymryd neu eu
haflonyddu gydag awdurdod trwydded.
Dylid gwneud cais am drwydded i gynnal gweithgareddau sy’n
effeithio ar rywogaethau sy’n cael eu gwarchod. Mae modd cyhoeddi
trwyddedau at bwrpasau arbennig, gan gynnwys astudiaethau
gwyddonol, ffotograffiaeth, rheoli cadwraethol ac atal difrod i
gnydau ac eiddo.