Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Trwyddedau ar gyfer rhywogaethau wedi eu gwarchod

Mae angen cynnal mwy a mwy o waith gwyddonol, addysgol a chadwraethol dan drwydded. Mae’r Cyngor yn ceisiosicrhau fod y system drwyddedu o fudd i fywyd gwyllt a’r rhai sydd ag angen trwydded.

Trwyddedau ar gyfer rhywogaethau wedi eu gwarchod

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cydnabod y bydd rhai pobl am gymryd rhan mewn gweithgareddau a fyddai, heb drwydded, yn droseddau. Fodd bynnag, ein gofal cyntaf yw gwarchod y rhywogaethau eu hunain.

Y system drwyddedu

Mae’r Cyngor wedi datblygu system drwyddedu, sy’n cynni gwasanaeth effeithiol i gwsmeriaid a hefyd yn ein helpu i fonitro cyflwr rhywogaethau sydd wedi eu gwarchod. Yn aml bydd hyn yn cyfrannu at eu cadwraeth. Bydd deiliaid trwyddedau’n cael cais am wybodaeth fanwl am y rhywogaethau y maen nhw’n eu hastudio a, lle bo hynny’n berthnasol, pa gamre cadwraeth a gymerwyd.

Sut i wneud cais am drwydded

  • Helpwch y Cyngor Cefn Gwlad trwy wneud cais yn gynnar, a rhoi manylion llawn am y weithgaredd dan sylw.
  • Wrth asesu eich cais, bydd y Cyngor yn disgwyl ichi ddangos cyfuniad o arbenigedd, profiad a gallu i ymgymryd â’r weithgaredd arfaethedig.
  • Dylai cynigion ar gyfer rhaglenni ymchwil a monitro fod ar seiliau cadarn, yn ddefnyddiol ac effeithiol.
  • Dylai pawb sy’n gwneud cais fod yn barod i gydweithredu gydag eraill.

Canllawiau i ymgeiswyr

Mae canllawiau wedi’u llunio yn ymwneud â rhai rhywogaethau arbennig er mwyn helpu’r rhai sydd eisiau cyflwyno cais am drwyddedau i wneud gwaith arolygu. Darllenwch yr ‘Adnoddau’ isod.



Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim trwyddedu
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen