Rhywogaethau eraill dan warchodaeth
Rhywogaethau eraill dan warchodaeth
Mae yna lawer o rywogaethau eraill sy’n cael eu gwarchod yn yr
un ffordd â mamaliaid o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
a’r Rheoliadau Cynefinoedd. Mae’r rhain yn cynnwys sawl rhywogaeth
o loyn byw a gwyfyn, chwilod, corynnod neu bryfed cop a llawer o
greaduriaid di-asgwrn-cefn y môr. Mae hyn yn golygu ei bod yn
drosedd i achosi dioddefaint diangen iddyn nhw.
Trwydded
Pan fydd trwydded wedi ei rhoi gan y Cyngor Cefn Gwlad neu
Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdodi gweithgaredd
benodol, gellir gwneud y weithgaredd honno yn gyfreithlon cyn
belled â bod amodau’r drwydded yn cael eu dilyn. Men rhai
amgylchiadau, mae modd lladd, cymryd neu aflonyddu ar rywogaeth
sydd wedi ei gwarchod, gydag awdurdod trwydded.
Dylech wastad gael trwydded i wneud unrhyw weithgareddau sy’n
effeithio ar rywogaeth wedi ei gwarchod. Gellir rhoi trwyddedau at
bwrpasau arbennig, gan gynnwys astudiaeth wyddonol,
ffotograffiaeth, rheolaeth gadwraethol ac i atal difrod i gnydau ac
eiddo.