Ar y Tir
Mae pob math o rywogaethau yn byw yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae dinistrio cynefinoedd a dyfodiad rhywogaethau
dieithr i’r wlad yn creu problemau mawr.

Mae gan Gymru hawl i fod yn falch o’r amrywiaeth o fywyd gwyllt
sydd yma gan gynnwys rhywogaethau pwysig fel lili’r Wyddfa. Serch
hyn, mae’r amrywiaeth wedi gostwng yn sgil gweithgarwch dynol.
Bu newidiadau mawr yng nghefn gwlad yn ystod yr ugeinfed
ganrif:
- Cafodd llawer o’n coedlannau llydanddail naturiol (coed bedw,
derw a choed llydanddail eraill) eu torri neu eu troi’n
blanhigfeydd conwydd
- Mae llawer o’r dolydd oedd yn llawn blodau a ieir bach yr haf
wedi diflannu
- Cafodd glwyptiroedd bychain eu draenio
- Cafodd y rhostiroedd porffor eu rhannu’n ardaloedd llawer
llai
- Collwyd ardaloedd eang o weundir a glaswelltir bryniog yn sgil
dulliau ffermio mwy dwys a phlannu conwydd – er fod hyn wedi
dechrau lleihau.
Roedd effaith y newid yma ar lawer o rywogaethau yn anferth. Mae
glaswelltir sydd wedi ei wella er mwyn amaethu – dros hanner
Cymru bellach – yn cynnwys cyn lleied o rywogaethau planhigion fel
mai ychydig iawn o fywyd gwyllt sydd yno hefyd.
Fe ddiflannodd pump o rywogaethau pili pala o Gymru yn y ganrif
ddiwethaf. Cafwyd gostyngiad mawr mewn rhywogaethau eraill fel
ysgyfarnogod brown, llygod dŵr a chornchwiglod.
Mae amrywiaeth bywyd gwyllt Cymru dan fygythiad pellach oddi
wrth rywogaethau dieithr i’r wlad. Er enghraifft, mae’r
rhododendron yn atal coed glasbren rhag tyfu. Heb goed ifanc nid
yw’n bosib i goedlannau llydanddail ffynnu. Dyma un o’n cynefinoedd
bywyd gwyllt mwyaf cyfoethog.
Mae’r ffaith fod cynefinoedd eraill wedi eu rhannu’n ddarnau
wedi effeithio ar fywyd gwyllt. Yn anffodus, mae rhannu llai yn
ddieithriad yn golygu llai o blanhigion ac anifeiliaid nag
ardaloedd mwy.