Cynefinoedd
Mae gan dir mawr Cymru amrywiaeth trawiadol o
gynefinoedd, a’r rheiny’n sy’n llawn bywyd gwyllt. Ond mae llawer
o’r cynefinoedd wedi dod dan fygythiad ac wedi dioddef yn sgil cael
eu hesgeuluso ac mi fydd problemau pellach yn codi yn sgîl y newid
yn yr hinsawdd.
Mae modd rhannu cynefinoedd Cymru yn dri phrif grŵp:
- Twyni tywod, clogwyni môr ac aberoedd ger yr arfordir.
- Coedlannau llydanddail, corsydd, gweundir, tir ffen a
glaswelltiroedd mewn ardaloedd amaethyddol ar dir isel.
- Rhostiroedd grug, corsydd blanced, clogwyni a sgri yn yr
ucheldiroedd.

Yng Nghymru mae rhan mwyaf deheuol prif ucheldiroedd Prydain,
cartref i rywogaethau mynydd gogleddol. Dyma ffin ddeheuol eu
dosbarthiad yn y DU.
Mae diwydiant yn y Cymoedd a gogledd ddwyrain Cymru wedi gadael
ei ôl ar ein cynefinoedd, ond mae llawer o’n ardaloedd sy’n llawn
bywyd gwyllt wedi datblygu law yn llaw â ffermio da byw dros y
canrifoedd – yn enwedig pori defaid a gwartheg.
Cadwraeth bioamrywiaeth : yr her
Mae camddefnyddio ein cynefinoedd a diffyg rheoli yn codi sawl
her. Mae hyn yn cynnwys darnio cynefinoedd – gan greu pocedi
bychain o goedlannau, rhostiroedd a glaswelltiroedd – sy’n
lleihau’r tebygrwydd y bydd rhywogaethau yn gallu ail- sefydlu wrth
i rywogaethau farw yn lleol.
Mae’n rhaid i gynlluniau newydd sy’n ceisio ymateb i’r her
ystyried newid yn yr hinsawdd a llygru’r atmosffer. Mae’r Cyngor
Cefn Gwlad a’i bartneriaid yn defnyddio gwybodaeth am yr amgylchedd
naturiol i ddarogan tueddiadau i’r dyfodol ac i awgrymu’r ffyrdd
mwyaf effeithiol o greu cadwraeth bioamrywiol tymor hir.