Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Cadw llygad – Arolwg Cynefinoedd Cymru

Cynhaliwyd Arolwg Cynefinoedd Cymru rhwng 1979 ac 1997 i gasglu gwybodaeth am yr holl gynefinoedd gwahanol trwy Gymru – faint sydd a ble maen nhw. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio erbyn hyn i ofalu am yr amgylchedd naturiol trwy’r wlad.

Sut y cynhaliwyd yr arolwg

Fe aeth arolygwyr hyfforddedig i’r maes i gofnodi cynefinoedd ar fapiau mawr yr Arolwg Ordnans.

Fe fapiwyd mwy na 99% o Gymru. Cofnodwyd cynefinoedd mor fach â 0.1 ha neu 0,25 ha, a chafodd cynefinoedd llai, hyd yn oed, eu mapio’n aml.

 

Habitat Map Rhan o fap cynefin a liwiwyd â llaw a’r map digidol cyfatebol yn dangos cymysgedd o gynefinoedd lled-naturiol, glaswelltir wedi’i wella a thir âr.Habitat Survey Map

 

 

 

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, 100018813 [1979 - 1997]

 

Sut y caiff yr wybodaeth ei defnyddio

Caiff gwybodaeth am bob cynefin a geir ym mhob cilomedr sgwâr yng Nghymru ei chadw mewn tabl, a gellir gweld a dadansoddi fersiynau electronig o’r mapiau o fewn System Gwybodaeth Ddaearyddol.

Dyma enghreifftiau o’r ffyrdd y byddwn yn defnyddio’r casgliadau:

· Pennu targedau ar gyfer cynefinoedd mewn Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth

· Ymateb i geisiadau cynllunio

· Nodi cyfleoedd i adfer cynefinoedd.

Gofyn am ddata

Gallwch ofyn am fersiwn ddigidol o’r data ar gyfer astudiaethau’n ymwneud â chadwraeth. Mae copïau CD Rom i’w cael yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â Jonathan Rothwell (j.rothwell@ccw.gov.uk).

Adnoddau Defnyddiol:

Cyhoeddiadau

Priority Habitats of Wales: a technical guide (Jones, P.S., Stevens, D.P., Blackstock, T.H., Burrows, C.R., Howe, E.A. (Eds), 2003. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Bangor).

Edrychwch ar y cyhoeddiad hwn i weld mapiau ac i gael amcangyfrif o arwynebedd 27 o safleoedd daearol a dŵr croyw a chanddynt flaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth. Hefyd, ceir mwy o fanylion am Arolwg Cynefinoedd Cymru, gan fod llawer o’r wybodaeth wedi deillio o’r arolwg hwn.

Papurau gwyddonol

Blackstock, T.H., Burrows, C.R., Howe, E.A., Stevens, D.P., Stevens, J.P., 2007. Habitat inventory at a regional scale: a comparison of estimates of terrestrial Broad Habitat cover from stratified sample field survey and full census field survey for Wales, U.K. Journal of Environmental Management, 85, 224-231; 86, 769.

Blackstock, T.H., Stevens, J.P., Howe, E.A., Stevens, D.P., 1995. Changes in the extent and fragmentation of heathland and other semi-natural habitats between 1920-22 and 1987-88 in the Llŷn Peninsula, Wales, UK. Biological Conservation 72, 33-44.

Howe, L., Blackstock, T., Burrows, C., Stevens, J., 2005. The Habitat Survey of Wales. British Wildlife 16, 153-162.

Stevens, J.P., Blackstock, T.H., Howe, E.A., Stevens, D.P., 2004. Repeatability of Phase 1 habitat survey. Journal of Environmental Management 73, 53-59.

Yeo, M.J.M., Blackstock, T.H., 2002. A vegetation analysis of the pastoral landscapes of upland Wales, UK. Journal of Vegetation Science 13, 803-816.

Edrychwch ar y papurau hyn i gael mwy o wybodaeth am wahanol agweddau ar Arolwg Cynefinoedd Cymru, gan gynnwys:

  • Comparison with Countryside Survey 2000 (Blackstock et al. yn y wasg)
  • Survey methods and how we use the findings (Howe at al. 2005)
  • Survey accuracy (Stevens et al. 2004)
  • Survey of the major upland blocks (Yeo a Blackstock 2002)
  • Estimation of habitat change during the twentieth century (Blackstock et al. 1995)

Llawlyfr ar gyfer arolygu cynefinoedd Cam 1

Caiff dosbarthiad a gweithdrefnau arolygu cynefinoedd Cam 1 eu disgrifio yn y Llawlyfr ar gyfer arolygu cynefinoedd Cam 1 – techneg ar gyfer archwilio’r amgylchedd (Y Cydbwyllgor Gwarchod Natur [JNCC]), 2003).

 

 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen