Rhywogaethau Rhostir
At ei gilydd, ystyrir rhostir yn gynefin sy'n
dlawd o ran rhywogaethau — ond mae rhostir Cymru'n gysylltiedig ag
amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid arbennig.
Mae rhai o'r planhigion prinnach sy'n ymgartrefu yn y cynefin
hwn yn cynnwys: y cor-rosyn rhuddfannog, cen strap blewynnog, a
chen eurwallt ar rostir arfordirol; y millyn grugog a'r toddaidd
gwelw ar rostir gwlyb; a'r cor-rosyn lledlwyd ar rostir
calchfaen.
Clywir adar megis clochdar y cerrig a'r llinos yn canu'n aml o
glytiau o rug tal ac eithin. Mae brain coesgoch, gyda'u pigau a’u
coesau cochion nodedig, yn nodweddiadol o rostiroedd arfordirol —
gwyliwch amdanynt yn ymborthi ymysg rhosydd byrion a thir glas Sir
Benfro, Llŷn ac Ynys Môn. Yn rhostiroedd iseldir De a Gorllewin
Cymru, efallai y cewch olwg ar delor Dartford, newydd-ddyfodiad i'r
ardal sydd wedi symud yma’n ddiweddar o'i hen gylchoedd yn
ne-orllewin Lloegr.
Craffwch yn agosach, ac fe welwch fod rhostiroedd iseldir yn
cynnwys rhai creaduriaid di-asgwrn-cefn nodedig. Mae morgrugyn du'r
gors, er enghraifft, yn nythu mewn rhostir gwlyb, tra bod y fursen
ddeheuol i'w chael ar nentydd a ffrydiau ar rostir gwlyb a
chorsydd. Mae'n well gan y glesyn serennog, ar y llaw arall,
lecynnau lle ceir llystyfiant cynnes, agored, lle bydd ei lindys yn
ymborthi ar rug, eithin a physen y ceirw.