Corsydd a siglennydd – gwlyptiroedd yr iseldir
Bydd gwlyptiroedd yn cael eu creu ar yr
iseldir pan fydd dŵr yn casglu ar y tir, yn nyffrynnoedd afonydd,
er enghraifft. Dim ond am ran o’r flwyddyn y bydd rhai dan ddŵr –
glaswelltiroedd corsiog, er enghraiff. Mae eraill yn siglenni sy’n
wlyb trwy’r flwyddyn, ble bydd mawn yn aml yn ffurfio.
Dyma’r prif fathau:
Corsydd pori
Mae llawer o gorsydd pori wedi eu draenio a’u ffermio i greu
glaswelltiroedd ffrwythlon ar gyfer ffermio llaeth; mae eraill yn
fwy naturiol gyda brwyn cyffredin a phlanhigion eraill y gors. Bydd
ffosydd ar lawer o gorsydd pori yn cynnig cartref i amrywiaeth mawr
o drychfilod, amffibiaid a chreaduriaid eraill tra gall hyd yn oed
y glaswelltiroedd sy’n cael eu ffermio fwyaf dwys fod yn
gynefinoedd pwysig i rydwyr fel y cornicyll a’r gylfinir.
Ble maen nhw
Yn bennaf yn y prif aberoedd a’r dyffrynnoedd lle mae afonydd
mwyaf Cymru wedi gorlifo a gadael llaid ar eu hôl.
Mignennydd
Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth mawr o fathau o dir sy’n cael
eu cadw’n wlyb gan afonydd, dŵr daear neu law. Bydd mawn yn tyfu
yno. Bydd y rhai gyda’r amrywiaeth mwyaf o fywyd gwyllt yn cael eu
dyfrio gan ddŵr o galchfaen ond mwy cyffredin yw’r rhai lle mae’r
dŵr yn asid ac yn brin o faetholion. Mae’r rhain i’w cael mewn
dyffrynnoedd ac ar lethrau bryniau lle mae dŵr yn llifo.
Ble maen nhw
Mae rhai o’r ffeniau cyfoethocaf o ran planhigion ac anifeiliaid
i’w cael yn Ynys Môn, ar Benrhyn Llŷn, ym Mharch Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog ac yn Sir Benfro.
Corsydd
Bydd corsydd yn cael eu dyfrio gan ddŵr glaw a dim arall – yn
aml pan fydd ffen wedi casglu digon o fawn i godi uwchben dŵr afon
neu ddŵr daear. Yng Nghymru, mae corsydd naill ai’n flancedi o fawn
ar yr ucheldir neu yn gromenni ynysig sy’n gallu casglu cymaint ag
8 metr o fawn ac sy’n tyfu ar i fyny o gymaint ag 1 mm o fawn bob
blwyddyn. Mae gan gorsydd eu hamrywiaeth eu hunain o blanhigion ac
anifeiliaid sydd wedi addasu i’r gwlypter, sy’n asis ac heb fawr
iddyn nhw fwydo arno. Mae’r rheiny’n cynnwys planhigion fel migwyn
a chwys yr haul sy’n ychwanegu at eu bwyd trwy ddal trychfiloed ar
flew gludiog ar eu dail.
Ble maen nhw
Mae dwy o’r enghreifftiau gorau yng Ngheredigion – Cors Caron ger
Tregaron a Chors Fochno ger Borth.
Siglennydd
Mae siglennydd yn gyffredin ac i’w cael mewn llefydd sydd dan
ddŵr trwy’r flwyddyn, neu am gyfnodau hir. Glaswellt tal a hesg
yw’r planhigion mwyaf cyffredin, yn arbennig y frwynen gyffredin.
Mae gwelyau brwyn sy’n cael eu ffurfio gan y glaswelltyn deniadol
yma yn bwysig i adar fel telor y brwyn a’r titw barfog.
Gwlyptiroedd a hanes
Mae gan wlyptiroedd le arbennig yn llên gwerin Cymru. Roedd y
bobl gynharaf yn credu mai’r gwlyptiroedd oedd y cysylltiad rhwng
byd dynion a byd yr ysbrydion. Gadawyd llawer o roddion i’r duwiau
mewn mannau gwlyb – gan gynnwys y casgliad o wrthrychau o Oes yr
Haearn a gafwyd yn Llyn Cerrig Bach ym Môn, y darian efydd wych o
Ros Rydd, Ceredigion, a’r cerflun bach enigmatig o ddyn o Ystrad
Fflur, Ceredigion. Cafwyd cyrff hefyd mewn corsydd ond does dim
tystiolaeth bendant fod pobl wedi eu haberthu yno.