Gwlyptiroedd yr iseldir – rheoli ac adfer
Tair egwyddor ganolog sy’n arwain y gwaith o
reoli ac adfer gwlyptiroedd yr iseldir – pori, rheoli lefelau dŵr a
chamre i leihau neu ddileu effaith cael gormod o faetholion, megis
nitrogen a ffosfforws.
Pori
Oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth, dyw llawer o
wlyptiroedd ddim yn cael eu pori erbyn hyn ac maen nhw’n llawn o
brysgoed, gweiriau tal, brwyn a fawr ddim arall. Un o amcanion y
Cyngor Cefn Gwlad yw hyrwyddo arferion pori da.
Dŵr
Fel arfer, bydd gweithgareddau rheoli ac adfer ar wlyptiroedd yr
iseldir yn anelu at gynnal lefelau uchel a chyson o ddŵr, gyda
lefelau isel o nitrogen a ffosfforws. Mae draenio yn arwain at
ryddhau carbon o fawn a cholli rhywogaethau. Mae adfer dŵr yn
flaenoriaeth ond, os yw hyn am lwydd yn y tymor hir, bydd rhaid
rheoli dalgylchoedd cyfan mewn ffordd gydnaws.
Gormod o faetholion
Yn y gwlyptiroedd pwysicaf, mae’r pridd yn aml yn asid ac yn
brin o faetholion. Gall gormod o faetholion megis nitrogen a
ffosfforws achosi rhai planhigion i dyfu’n rhy gryf, gan dagu
eraill. Mae sawl achos posibl: gormod o ddefnydd o wrtaith,
carthffosiaeth, silwair, gwastraff a llygredd yn yr awyr. Y ffordd
orau i ddelio â gormod o faetholion yw delio â ffynhonnell y
broblem.
Datblygu cynlluniau adfer
Bydd y Cyngor Cefn Gwlad yn comisiynu a chynnal rhaglenni
ymchwil ac arolwg sylweddol i helpu i ddatblygu rhaglenni cadwraeth
ac adfer