Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Ucheldiroedd Cymru

Ar yr olwg gyntaf, mae ucheldiroedd gwyntog Cymru yn edrych yn anghroesawgar. Ond gerwinder y tir ei hun sydd wedi creu peth o fywyd gwyllt mwyaf dramatig Cymru – a hwnnw wedi addasu’n wych i galedi’r hinsawdd gignoeth. Mewn gwirionedd, mae’r ucheldiroedd yn llawn trysorau.

 

Rainbow Beetle

Mae un math o chwilen – sydd wedi goroesi ers yr Oes Iâ ddiwethaf – yn dal i fyw yn uchel ar yr Wyddfa, ble mae’n byw ar deim gwyllt. Mae blodau arctig-alpaidd hynod hefyd ar y clogwyni uchel. Ac wedyn dyna’r rhywogaethau cefnforol sydd i’w cael ar hyd glannau gorllewinol Ewrop.

Gwlad fynyddig yw Cymru. Mae cadwyn mynyddoedd y Cambria fel asgwrn cefn o’r gogledd i’r de, Eryri yn cyrraedd at y môr yn y gogledd-orllewin a Bannau Brycheiniog a’r Mynydd Du yn cwblhau’r goron greigiog.

Ond, ynghanol y mynyddoedd, mae myrdd o ddyffrynnoedd bychain, a llond lle o wahanol dirweddau a chyfoeth o fywyd gwyllt.

Maer adroddia isod mewn saesneg yn unig.

Fe drefnodd y Cyngor Cefn Gwlad seminar yng Ngharno ar 12 Medi 2007 o’r enw ‘Cadwraeth Yn Ucheldiroedd Cymru – Y Dyfodol’. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi braslun o’r seminar, yn crynhoi’r cyflwyniadau a roddwyd ar y diwrnod, ac yn trafod yr hyn sydd raid i ni ei wneud nesaf er mwyn datblygu gweledigaethau’n ymwneud â chadwraeth ucheldiroedd Cymru.


Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen