Cynefin hynafol - coetiroedd
Wedi’r Oes Iâ ddiwethaf, byddai’r rhan fwyaf o
Gymru o dan goed – nid blanced ddi-dor o goed, ond tirwedd glytiog,
gymhleth yn cynnwys llynnoedd a chorsydd a chopaon agored.
Byddai’r bylchau yn y coed yn newid patrwm wrth i goed gwympo yn
y gwynt neu oherwydd clefydau a thân, yn ogystal ag oherwydd
effeithiau pobl ac anifeiliaid mawr.
Tros filoedd o flynyddoedd, mae pobl wedi clirio’r coedwigoedd a
throi’r tir at ddefnydd arall, gan greu’r patrwm presennol o
glytiau o goed o fewn tirwedd agored. Mae pob coetir wedi ei newid
i ryw raddau neu’i gilydd trwy reolaeth, felly does yr un yn gwbl
naturiol neu ddilychwin.
Coetiroedd heddiw
- Mae holl goetiroedd Cymru yn gorchuddio tua 13% o arwynebedd y
tir.
- Mae tua 9% yn blanhigfeydd o goed tramor, megis pyrwydd
Sitca.
- Mae llain na thraean o’r coedwigoedd, neu 4% o’r tir, yn goed
brodorol. Yr enw ar y rhain yw coetiroedd lled-naturiol.
Mathau o goetiroedd
Mae gan Gymru rychwant eang o wahanol fathau o goetiroedd, a’r
rheiny’n dangos amrywiaeth hyn natur y pridd, yr hinsawdd a
lleithder.
Coedydd derw yw’r mwyaf cyffredin, yn tyfu ar briddoedd cymharol
asid ym mhob rhan o Gymru. Dewr yw’r coed amlycaf, ond mae bedw a
chriafol hefyd yn gyffredin, gyda chelyn a chyll yn tyfu islaw.
Yn aml, prin yw’r planhigion blodeuog (enghreifftiau
nodweddiadol yw llus, grug a grugwellt main) ond, lle bo lefelau
uchel o law, gall y coetiroedd hyn fod yn doreithiog gyda llond y
lle o fwsogl, llysiau’r afu a rhedynnau.
Ar bridd cyfoethocach y bydd coedydd cymysg yn tyfu, gyda’r coed
yn cynnwys onn a masarn, gyda llwyfenni weithiau, a chriafol, derw
a bedw. Yn aml bydd haen is gyfoethog o goed cyll, piswydd, masarn
bach, corswig ac yw.
Gall y coedydd hyn fod yn gyforiog o flodau, gyda bresych y cŵn,
craf y geifr, briallu a chlychau glas.
Mae’r ffawydden yn goeden frodorol yn ne-ddwyrain Cymru a bydd y
cysgod dwys a’r gwastraff o tan i yn golygu mai ychydig goed eraill
sy’n tyfu o’i chwmpas. O ganlyniad, mae coedydd ffawydd yn dueddol
o fod yn fwy agored.
Bydd coetiroedd gwlyb yn tyfu yn unrhyw le sydd o dan ddŵr
trwy’r amser neu yn gyson, megis ymylon llynnoedd, corsydd,
siglenni a glannau afonydd. Gwern, helyg neu fedw yw’r coed fel
arfer, gydag amrywiaeth cyfoethog o blanhigion ar y ddaear.
Bygythiadau i goetiroedd
Er mai anaml y bydd coetiroedd cyfan yn cael eu torri y dyddiau
hyn, mae bygythiadau eraill:
- Adeiladu ffyrdd a datblygiadau eraill – os bydd coetiroedd yn
cael eu darnio, fydd rhai anifeiliaid a phlanhigion ddim yn
goroesi.
- Pori – mae gormod o bori’n rhwystro coed newydd rhag tyfu; os
nad oes digon o bori, bydd tyfiant yn cael ei dagu. Mae niferoedd
cynyddol o geirw’n broblem mewn rhai ardaloedd.
- Rhywogaethau tramor – gall rhywogaethau dieithr oresgyn
coetiroedd a gwneud drwg i’r bywyd gwyllt sydd yno eisoes. Mae
rhododendron yn enghraifft glasurol, yn tyfu’n gryf yng nghoedydd
derw’r ucheldir gan dagu bron bopeth arall.
- Rheoli – bydd coetiroedd yn dioddef oherwydd esgeulustod neu
reoli rhy ddwys.
Gwarchod y coetiroedd
Bydd enghreifftiau o fathau penodol o goetir yn cael eu diogelu
o fewn safleoedd sydd wedi eu gwarchod, megis Safleoedd o
Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae polisïau, grantiau a
chynlluniau eraill i annog rheoli da.
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn gweithio gyda phartneriaid i
ddatblygu ac adfer coetiroedd ar raddfa fawr. Y nod yw adfer
coetiroedd sydd wedi eu darnio a helpu i leihau rhai o effeithiau
newid yn yr hinsawdd.