Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Rhywogaethau (cyflwyniad)

Pa rywogaethau sy’n arbennig i Gymru?

Y barcud neu’r frân goesgoch? Lili’r Wyddfa? Brith y gors?

Er yn fach, mae Cymru yn gartref i nifer fawr o wahanol rywogaethau. Mae hyn yn adlewyrchu ei lleoliad daearyddol, ei chynefinoedd amrywiol a chymhlethdod ei daeareg a’i phridd.

Mae gan Gymru bioamrywiaeth arbennig. Ac felly mae ganddom ni rôl bwysig i’w chwarae wrth ddiogelu rhywogaethau o blanhigion ac anifieiliaid di-asgwrn cefn. Yn nodweddiadol o rywogaethau morol gorllewin Ewrop, maen nhw hefyd i’w gweld yng ngorllewin Portiwgal, Ffrainc ac Iwerddon.

Mae ein coetiroedd derw llaith a chysgodol yn frith o fwsoglau, llysiau’r afu a chennau. Ac mae’r clogwyni a thwyni tywod yn gartref i fywyd gwyllt sy’n gallu ymdopi â sychder a hinsawdd eithafol.

Gogledd a de

Mae Cymru yn gorwedd ar y ffin rhwng rhywogaethau’r goledd a de. Ucheldiroedd Bannau Brycheiniog yw cartref mwyaf deheuol nifer o blanhigion arctig-alpaidd. Ac, ochr arall y wlad yn nhwyni tywod Ynys Môn, fe welwch anifeiliaid di-asgwrn cefn deheuol yn eu cynefinoedd mwyaf gogleddol. Bydd cofnodi symudiadau y rhywogaethau hyn yn bwysig wrth i ni fonitro newid yn yr hinsawdd.

Ymlediad estron

Mae cadwraethwyr yng Nghymru yn monitro rhywogaethau ymledol anfrodorol, fel clymog Japan, a’u heffaith ar gynefinoedd a rhywogaethau brodorol prin. Bydd rhaid i ni hefyd ddelio â minc a briwedd Seland Newydd os ydym am ddiogelu llygoden y dwr a’r fadfall ddwr gribog.

Gwarchod ein bywyd gwyllt

Mae gan Gymru 175 rhywogaeth ar restr Adran 74 o Rywogaethau mwyaf Pwysig ar gyfer Diogelu Amrywiaeth Biolegol. Mae’r rhan fwyaf hefyd ar restr y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU o blanhigion ac anifeiliaid sydd dan fygythiad. Ond mae’r detholiad yma yn rhan fach o’r stori gyflawn. Gobeithiwn, trwy ddiogelu’r cynefinoedd a’r rhywogaethau hyn, y bydd rhywogaethau pwysig eraill yn gallu manteisio o’n gweithredoedd ni.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen