Planhigion blodeuol
Yr uwchblanhigion – planhigion blodeuol,
rhedyn a’u perthnasau – yw calon amgylchedd Cymru a’i brif
ffynhonnell bywyd. Maen nhw’n gyfrifol am drysorfa o blanhigion
gyda mwy na 1,300 o rywogaethau sydd yma erioed neu wedi hen
ymgartrefu yma. Ynghyd â’r gwledydd Celtaidd eraill, mae gan Gymru
gasgliad o blanhigion gyda’r pwysicaf a’r mwyaf amrywiol yn y byd
...
Mae’r bioamrywiaeth cyfoethog hwn hefyd yn
cynnwys perthnasau hynod a hynafol y rhedyn – gwair merllyn,
cnapfwsogl a marchrawn.
Mae’n debyg hefyd bod cannoedd yn rhagor o
ficro-rywogaethau ymhlith y mieri a dant y llew a’r rheiny heb gael
eu disgrifio hyd yma.
Bob blwyddyn bydd dwsinau’n rhagor o
blanhigion newydd yn cael eu hychwanegu at y rhain, naill ai’n
ddamweiniol neu’n fwriadol, fel arfer o fyd garddwriaeth. Bob
blwyddyn, bydd eraill yn prinhau, neu’n diflannu’n llwyr.
Rhaid i ni ddeall y tueddiadau hyn, er mwyn
cadw’r bywyd gwyllt a’r harddwch sy’n rhan o hanfod Cymru.
Planhigion y gwledydd Celtaidd
Bydd teithwyr o amgylch Ewrop yn sylwi ar y
tebygrwydd rhwng Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill.
Mae gan Iwerddon, yr Alban, Cernyw a Llydaw yr
un digonedd o eithin a grug, yr un coedydd o glychau’r gog a
cheinioglys ar fin y ffordd.
Yn fwy na dim, mae yna amrywiaeth rhyfeddol o
fathau o redyn, a’u perthnasau. Mae’r rhannau o Ewrop sydd ar
lannau môr Iwerydd yn ganolfan fioamrywiaeth fyd‑eang i’r
planhigion hyn, a’r gred yw mai Cymru yw un o’r mannau cyfoethocaf
oll.
Mewn gwirionedd, mae mwy o rywogaethau o redyn
a’u perthnasau yn ucheldiroedd de Sir Gaernarfon nag mewn unrhyw
ran arall tebyg o wledydd Prydain.
Ond mae gan Gymru a gwledydd yr Iwerydd
gyfrifoldeb am rychwant llawer ehangach o blanhigion.
Mae rhan sylweddol o boblogaethau’r byd o
nifer o blanhigion i’w cael yma, er enghraifft tegeirian y gors,
crafanc y dŵr a rhywogaethau o ddyfrllys ac effros.
Canlyniad yw hyn yn rhannol i bridd creigiog
tenau a lefelau uchel, tebyg, o law. Ond maen nhw hefyd yn
adlewyrchu elfen ddynol gyffredin.
Mae gan y gwledydd Celtaidd draddodiadau
ffermio tebyg iawn a’r un mant o agweddau diwylliannol at dirwedd –
mae nodweddion cefn gwlad Cymru yn gynnyrch planhigion a phobl.