Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Creaduriaid di-asgwrn cefn

Mae yna amrywiaeth rhyfeddol o greaduriaid di-asgwrn cefn yng Nghymru, ac maen nhw’n gyfran uchel o fioamrywiaeth y wlad. Er na fyddwch, efallai, yn sylwi arnyn nhw, maen nhw’n hanfodol i les yr amgylchedd.

Yr amcangyfrif yw fod 25,000 o rywogaethau o greaduriaid di-asgwrn cefn yn byw ar y tir ac mewn dŵr croyw yng Nghymru. Fyddai ein hecosystemau ddim yn gweithio hebddyn nhw. Mae eu swyddogaethau’n cynnwys:

  • Peillio planhigion gwyllt a phlanhigion gardd
  • Bod yn ffynhonnell fwyd i anifeiliaid ac adar
  • Helpu llystyfiant marw a thail i bydru
  • Awyru’r pridd
  • Ffiltro dŵr

Mae rhai o greaduriaid di-asgwrn cefn Cymru yn bwysig ar raddfa Ewropeaidd – er enghraifft brith y gors (Euphydryas aurinia) a’r fursen Benfro (Coenagrion mercuriale). Yng Nghymru y mae unig boblogaethau Prydeinig rhai rhywogaethau, megis y chwilen ddail liwgar (Chrysolina cerealis) a gwyfyn gwledig Ashworth (Xestia ashworthii).

Mae hinsawdd, daeareg a natur y tir yng Nghymru yn effeithio ar amrywiaeth y rhywogaethau. Mae casgliadau pwysig i’w cael yn ein mawnogydd, ein porfeydd gwlyb, ein coedydd derw ac ar glogwyni’r glannau a thwyni tywod, ar lannau afonydd ac yn y mynyddoedd. Mae gan y rhan fwyaf o’n rhywogaethau ddobarthiad gogleddol a gorllewinol ym Mhrydain.

Gwaetha’r modd, mae creaduriaid di-asgwrn cefn yn fregus iawn pan fydd enwid mewn cynefin – trwy addasu defnydd tir, darnio cefn gwlad, gostwng ansawdd dŵr a newid yn yr hinsawdd. Dyma rai rhesymau am y sensitifrwydd hyn:

  • Cylchdro blynyddol sydd gan y rhan fwyaf o greaduriaid di-asgwrn cefn ac maen nhw’n aml yn byw mewn amgylcheddau arbenigol sy’n dibynnu ar ficrohinsawdd a natur llystyfiant a heidroleg.
  • Cyfyng yw gallu llawer o rywogaethau i wasgaru a fydd unigolion ddim yn teithio ymhell yn ystod eu hoes.

Mae rhai yn ennill a rhai yn colli o ganlyniad i’r newidiadau hyn ond, gwaetha’r modd, y rhai mwyaf arbenigol a gwerthfawr sy’n dioddef fwyaf. Mae gwarchod ein poblogaethau o greaduriaid di-asgwrn cefn yn her fawr ac mae gofyn I ni ddeall a gwerthfawrogi arwyddocâd amrywiaeth anferth o rywogaethau a’u hanghenion ecolegol.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen