Isblanhigion
Beth yw’r isblanhigion? Dim byd i’w wneud â’u
maint nhw, er bod llawer yn fychan ac yn agos at y ddaear. Mewn
gwirionedd, mae’r enw’n cyfeirio at amrywiaeth mawr o blanhigion ac
organebau tebyg-i-blanhigion sy’n cael eu hystyried yn ‘is’ ar
risiau esblygiad, o gymharu â blodau, rhedyn a chonwydd.
Felly sut fath o blanhigion sydd yn y grŵp yma? Dyma’r rhai sydd
fel rheol yn cael eu cynnwys:
- bryophytes – teulu’r mwsogl
- ffyngau
- myxomycetes – mathau o lwydni
llysnafeddog
- cen
- rhawn yr ebol – grŵp penodol o algae dŵr
croyw
O blith y rhain, dim ond y bryophytes a rhawn yr ebol sy’n
blanhigion go iawn. Mewn gwirionedd, mae ffyngau a llwydni
llysnafeddog yn perthyn yn nes at anifeiliaid nag at blanhigion.
Mae dau ran i gen: math o ffwng ac alga neu ‘cyanobacteriwm’
(bacteriwm gwyrddlas).