Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Mamaliaid

Mae rhai wrth eu bodd â’r ddinas, yn rhannu ein cartrefi a bwyta ein sbarion. Gwell gan eraill fyw yng nghefn gwlad ymhell o gynnwrf y dref.

Yn amrwyio mewn maint o’r chwistlen leiaf i’r carw coch mawr, mae mamaliaid gwyllt yn cynnwys anifeiliaid sy’n cerdded, rhedeg, dringo ac hyd yn oed hedfan. Mae rhai’n hapus i fwyta sborion, ond mae gan eraill ddeiet arbenigol iawn.

Mae rhai yn enigmatig ac yn rhan annatod o’n chwedlau. Ond edrychwn ar eraill fel pla pan fo’u anghenion nhw yn gwrthdaro â’n rhai ni.

Mae gan famaliaid amrywiaeth o strategaethau ar gyfer goroesi. Mae llygod a chwningod yn fridwyr mawr, ond mae ystlumod yn byw am flynyddoedd ac ond yn rhoi genediagaeth i un ystlum ar y mwyaf pob blwyddyn. Mae’r pathew yn gaeafgysgu pan fo bwyd yn brin. Ond, er bod wiwerod yn llai prysur yn y gaeaf, nid ydyn nhw’n cysgu yn ystod y misoedd hyn.

Maen nhw i gyd yn rhoi genedigaeth i anifieiliad ifanc byw sy’n bwydo ar laeth y fam. Yn rhan allweddol o bioamrywiaeth Cymru, maen nhw’n arwydd o safon iechyd ein hamgylchedd. Er enghraifft, mae dychweliad y dyfrgi i nifer fawr o afonydd Cymru yn dangos bod ein dyfroedd yn lân ac yn cynnwys digon o bysgod ac amffibiaid.

Gwarchod ein mamaliaid

Mae deddfwriaeth rhyngwladol a’r DG yn gwarchod ein mamaliaid mwyaf prin ac mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth cenedlaethol a lleol yn rhoi canllawiau ar gyfer eu diogelu. Mae nifer o fudiadau Cymreig a Phrydeinig yn chwarae rôl bwysig o ran diogelu mamaliaid. Dilynwch y linciau isod i gael mwy o wybodaeth ynglyn â mamaliaid yng Nghymru.

Priority species Healthcheck

Link here to the Lesser Horseshoe Bat pages.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
Postal address
Y tim cynefinoedd a rhywogaethau
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen