Cynllun Gweithreddu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig
Bioamrywiaeth yw’r holl
fywyd amrywiol a geir ar y ddaear, popeth byw, gan ein cynnwys
ni.
Yn y DU, mae 391 o
rywogaethau a 45 o gynefinoedd wedi eu rhestru fel bod â
blaenoriaeth, ac mae cynlluniau gweithredu i’w cael ar eu
cyfer. Bob tair blynedd caiff adroddiadau eu llunio am
y cynnydd a wneir o ran y gweithredu a’r targedau sy’n cael eu
pennu yn y cynlluniau yma. O blith y rhain, mae 175 o
rywogaethau a 38 o gynefinoedd yn berthnasol i Gymru.
Adroddiad Cymru o Gyfnod Adrodd Cynllun Gweithredu’r DU ar
Fioamrywiaeth 2005
Mae adroddiad Cymru o gyfnod adrodd Cynllun Gweithredu’r DU
ar Fioamrywiaeth 2005 ar gael yma yn awr.
This Mae’r adroddiad hwn yn gwbl ryngweithiol. Mae’n cyflwyno
is-set o ddata ar gyfer Cymru ac yn cynnwys manylion llawn.
Edrychwch ar y data a chliciwch ar y tablau a’r graffiau er mwyn
gweld y data manwl.
Gwelodd Uwchgynhadledd y Byd yn Rio ym 1992 arweinwyr y byd yn
cwrdd am y tro cyntaf gydag un pryder cyffredin ynglŷn â chyflwr
amgylchedd ein byd.
Yn sgîl yr Uwchgynhadledd yma, paratowyd rhaglen weithredu o’r
enw Agenda 21 i hybu Datblygu Cynaliadwy. Arwyddodd dros 170 o
wledydd y cytundeb, gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Un o’r elfennau
oedd datblygu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.
Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig “Bioamrywiaeth:
Cynllun Gweithredu’r Deyrnas Unedig” ym 1994 a sefydlwyd Grŵp
Llywio Bioamrywiaeth er mwyn gweithredu’r rhaglen waith a oedd o
fewn y cynllun.
Mae Grŵp Llywio Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig yn gosod nodau a
thargedau gan gynnwys datblygu cynlluniau wedi’u prisio ar gyfer y
rhan fwyaf o gynefinoedd a rhywogaethau sydd ar drai neu o dan
fygythiad; ynghyd â hybu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
(CGBLl). Mae’r cynlluniau lleol hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau
bod cadwraeth yn digwydd ar lefel leol.
Mae gan Gynllun Bioamrywiaeth Lleol agenda gyfrannol ar gyfer
diogelu a chynyddu bioamrywiaeth ac fe ddylai ddatblygu drwy fagu
consensws. Er ei bod yn bosibl y bydd un sefydliad yn arwain, dylai
pob un sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd lleol fod yn berchen arno.
Felly, sefydlu partneriaethau yw un o elfennau pwysicaf y broses
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.
Dyma’r dulliau allweddol:
- Partneriaeth – gweithredu yn cynnwys
cydweithredu rhwng sectorau statudol, gwirfoddol, academaidd a
busnes ar lefelau cenedlaethol a lleol.
- Targedau – rhaid sefydlu canlyniadau mesuradwy
sy’n cwrdd ag anghenion mathau o rywogaethau a chynefinoedd sy’n
ymwneud yn bennaf â gwarchod bioamrywiaeth.
- Integreiddio Polisi – cydnabod bod angen newid
mewn polisi i wrth‑droi’r lleihad yn adnodd bioamrywiaeth yn y
Deyrnas Unedig ac i gynnal datblygu cynaliadwy ym mhob sector o’r
gymdeithas.
- Gwybodaeth – tra dylai gwyddoniaeth a
gwybodaeth gadarn fod wrth wraidd penderfyniadau, rhaid cydnabod
bod angen ymdriniaethau newydd er mwyn llenwi bylchau mewn
gwybodaeth a dealltwriaeth ac i reoli’r wybodaeth sydd eisoes ar
gael yn fwy effeithiol.
- Ymwybyddiaeth Gyhoeddus – mae angen i’r
cyhoedd ddeall a gweithredu er mwyn cefnogi’r newidiadau sydd eu
hangen i gynnal bioamrywiaeth.
Cymerwch gipolwg ar wefan Bioamrywiaeth y Deyrnas
Unedig www.ukbap.org.uk
Yma gallwch:
- Ddod o hyd i wybodaeth am fioamrywiaeth y Deyrnas Unedig drwy
ymweld â chrynodebau cynlluniau gweithredu lleol,
cynlluniau gweithredu rhywogaethau a
chynlluniau gweithredu cynefinoedd;
- Edrych ar y dudalen gysylltau
er mwyn darllen am grwpiau bioamrywiaeth a chwilio am
sefydliadau;
- Lwytho adroddiadau, canllawiau, newyddion a dogfennau i lawr
o’r llyfrgell;
- Bori drwy’r ffactorau (allweddeiriau) sy’n effeithio ar leihad
mewn rhywogaethau a chynefinoedd.