Mae amaethyddiaeth, tai, pysgota, coedwigaeth,
hamdden a chwaraeon i gyd yn allweddol i ffyniant
Cymru. Ond mae’r gofynion cynyddol a roddwn ar ein
tiroedd a’n moroedd, ynghyd ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn
golygu bod ein hamgylchedd dan bwysau. Rhaid inni
warchod ein bioamrywiaeth. Mae angen inni gefnogi datblygu
cynaliadwy. Er mwyn gwneud hyn, rydym angen cael dull
integredig o reoli ein tiroedd a’n moroedd.
Yr hyn a wnawn

Meddwl yn
gynaliadwy
Ystyriwch fyd yn llawn o bobl sy’n gwarchod ac
yn trysori’r amgylchedd. Dyma’r hyn y mae’r Cyngor Cefn
Gwlad yn anelu ato yma yng Nghymru. Rydym eisiau i’r
tir a’r môr gael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy er budd bywyd
gwyllt a phobl fel ei gilydd.
Rheolaeth a Chynllunio Morol

Dÿr yw
popeth
Mae’r môr o amgylch Cymru wedi helpu i ddatblygu
ein diwylliant a’n heconomi. Wrth gwrs, mae diogelu a
chyfoethogi ansawdd yr adnodd amgylcheddol yma’n
bwysig. Rhaid inni gael systemau cynllunio a rheoli
effeithiol i gefnogi ein hamgylchedd morol a’n heconomi yn yr
hirdymor.
Amcanion Cadwraethol ACA Morol
Cyngor Rheoliad 33
Yn ôl Rheoliad 33 y Rheoliadau Cynefinoedd, mae gennym gyfrifoldeb
i roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol (sef yr asiantaethau a’r
awdurdodau statudol sy’n gyfrifol am Safleoedd Morol Ewropeaidd)
beth yw amcanion cadwraethol y safleoedd, gan ddweud wrthynt hefyd
pa weithgareddau a all niweidio neu darfu ar y nodweddion
arbennig.