Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Rheoli tir a môr

Mae amaethyddiaeth, tai, pysgota, coedwigaeth, hamdden a chwaraeon i gyd yn allweddol i ffyniant  Cymru.   Ond mae’r gofynion cynyddol a roddwn ar ein tiroedd a’n moroedd, ynghyd ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn golygu bod ein hamgylchedd dan bwysau.   Rhaid inni warchod ein bioamrywiaeth. Mae angen inni gefnogi datblygu cynaliadwy.   Er mwyn gwneud hyn, rydym angen cael dull integredig o reoli ein tiroedd a’n moroedd.

Yr hyn a wnawn

Meddwl yn gynaliadwy
Ystyriwch fyd yn llawn o bobl sy’n gwarchod ac yn trysori’r amgylchedd.   Dyma’r hyn y mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn anelu ato yma yng Nghymru.   Rydym eisiau i’r tir a’r môr gael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy er budd bywyd gwyllt a phobl fel ei gilydd.

Polisi dŵr

Defnyddio dŵr croyw yn synhwyrol
Rydym yn defnyddio afonydd, llynnoedd, nentydd, gwlyptiroedd, camlesi, pyllau a ffosydd ar gyfer ein cyflenwad dŵr, i gael gwared â sbwriel, cynhyrchu trydan, mordwyo, ac ar gyfer pysgodfeydd, amaethyddiaeth a hamddena. Rydym yn gorfod sicrhau nad yw’r defnydd hwn yn bygwth yr amrywiaeth aruthrol o fioamrywiaeth dŵr croyw a gwlyptir sydd gennym yma yng Nghymru.

Polisïau Morol

Dyfodol disglair
Rhaid i ni wneud yn siÿr fod ein hamgylchedd morol yn gynaliadwy yn yr hirdymor trwy gael polisïau cadarn a pherthnasol.

Rheolaeth a Chynllunio Morol

Dÿr yw popeth
Mae’r môr o amgylch Cymru wedi helpu i ddatblygu ein diwylliant a’n heconomi.   Wrth gwrs, mae diogelu a chyfoethogi ansawdd yr adnodd amgylcheddol yma’n bwysig.   Rhaid inni gael systemau cynllunio a rheoli effeithiol i gefnogi ein hamgylchedd morol a’n heconomi yn yr hirdymor.


Amcanion Cadwraethol ACA Morol

Cyngor Rheoliad 33
Yn ôl Rheoliad 33 y Rheoliadau Cynefinoedd, mae gennym gyfrifoldeb i roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol (sef yr asiantaethau a’r awdurdodau statudol sy’n gyfrifol am Safleoedd Morol Ewropeaidd) beth yw amcanion cadwraethol y safleoedd, gan ddweud wrthynt hefyd pa weithgareddau a all niweidio neu darfu ar y nodweddion arbennig.

Unrhyw sylwadau ar ddefnyddio tir a môr?   Rhowch wybod inni!

Rheoli coedwigoedd a choetiroedd

Fforestydd lu
Mae bron i 14% o arwynebedd Cymru wedi’i orchuddio gan goetiroedd.   Mae coed a choedwigoedd yn nodweddion cwbl allweddol o dirwedd Cymru...

Amaethyddiaeth

Cefnogi defnydd tir
Yng Nghymru, mae amaethyddiaeth yn gwbl allweddol i’n cymunedau gwledig o safbwynt economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

Ein safleoedd eraill
Help

Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen