Asesiadau Amgylcheddol Strategol (AAS)
Dylid paratoi Asesiadau Amgylcheddol Strategol
bob amser pan fydd sefydliad yn llunio rhaglen waith neu gynllun o
bwys – er enghraifft cynllun datblygu awdurdod lleol.
Diben AAS yw cyflwyno llawer iawn o warchodaeth amgylcheddol, gan
sicrhau bod yr holl effeithiau a’r holl bynciau amgylcheddol yn
cael eu hystyried yn llawn cyn cymeradwyo neu weithredu
cynllun.
Gall y Cyngor Cefn Gwlad roi canllawiau i sefydliadau sy’n llunio
AAS. Hefyd, mae ganddo gyfrifoldebau fel corff ymgynghorol ac
awdurdod cyfrifol.
Y Gyfarwyddeb AAS
Cafodd Cyfarwyddeb yr UE 2001/42/EC ar asesu cynlluniau a
rhaglenni arbennig yn ymwneud â’r amgylchedd ('The assessment of
certain plans and programmes on the environment') – neu’r
Gyfarwyddeb Asesiadau Amgylcheddol Strategol – ei rhoi ar waith yn
y DU fis Gorffennaf 2004.
Y prif beth sy’n ofynnol yn ôl y Gyfarwyddeb yw cynnal
‘asesiadau amgylcheddol’ ar gynlluniau a rhaglenni. Mae AAS yn
berthnasol yn ystod y cam cynllunio strategol sy’n pennu’r
fframwaith ar gyfer datblygiadau a gweithgareddau eraill. Mae AAS
hefyd yn berthnasol i amrywiaeth eang o sectorau cyhoeddus a
phreifat, gan gynnwys cynllunio defnydd tir, rheoli gwastraff,
rheoli dŵr, cynllunio a thrafnidiaeth.
Swyddogaeth y Cyngor Cefn Gwlad
Yn ôl y Gyfarwyddeb AAS a’r Rheoliadau perthnasol, mae gan y
Cyngor Cefn Gwlad ddwy swyddogaeth bwysig. Fel ‘awdurdod cyfrifol’,
rhaid i’r Cyngor gynnal asesiad amgylcheddol strategol o’i
gynlluniau a’i rhaglenni perthnasol ei hun, ac fel ‘corff
ymgynghorol’ rhaid iddo gymryd rhan weithredol yn yr Asesiadau
Amgylcheddol Strategol a gynhelir gan awdurdodau eraill.
Canllawiau ar AAS ar gyfer ymarferwyr
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau. Mae’r
rhain yn ymdrin ag amrywiaeth eang a chynhwysfawr o bynciau sy’n
berthnasol i AAS:
Pwnc AAS:
Aer
Pwnc AAS:
Bioamrywiaeth
Pwnc AAS:
Newid yn yr Hinsawdd
Pwnc AAS:
Treftadaeth Ddiwylliannol
Pwnc AAS:
Tirwedd
Pwnc AAS:
Asedau Materol
Pwnc AAS:
Pridd
Pwnc AAS:
Dŵr
Mae canllawiau ychwanegol ar newid hinsawdd wedi’u cyhoeddi ar y
cyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Natural
England a phartneriaid eraill. Dim ond yn y Saesneg y mae’r rhain
ar gael, ond ceir crynodeb Cymraeg isod.
Asesiadau
Amgylcheddol Strategol a newid hinsawdd: Canllawiau i ymarferwyr
(Saesneg)
Crynodeb
Cymraeg
Safonau a Gwasanaethau
Gwasanaethau a Safonau Cyrff Ymgynghori
AAS
Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r safonau a’r gwasanaethau y bydd y
Cyngor Cefn Gwlad a Chyrff Ymgynghorol statudol eraill yng Nghymru
(Cadw ac Asiantaeth yr Amgylchedd) yn eu cyflwyno i Awdurdodau
Cyfrifol yng Nghymru wrth iddynt ymgynghori ynglŷn ag AAS.