Polisi dŵr – defnyddio dŵr croyw yn synhwyrol
Rydym yn defnyddio afonydd, llynnoedd,
nentydd, gwlyptiroedd, camlesi, pyllau a ffosydd ar gyfer ein
cyflenwad dŵr, i gael gwared â sbwriel, cynhyrchu trydan, mordwyo,
ac ar gyfer pysgodfeydd, amaethyddiaeth a hamddena. Rydym yn gorfod
sicrhau nad yw’r defnydd hwn yn bygwth yr amrywiaeth aruthrol o
fioamrywiaeth dŵr croyw a gwlyptir sydd gennym yma yng Nghymru.
Pam ydym ni’n ymboeni am ddyfroedd croyw a gwlyptiroedd?
Mae defnyddio dŵr mewn modd synhwyrol yn hanfodol ar gyfer
datblygu cynaliadwy. Mae Cymru’n meddu ar amrywiaeth drawiadol o
ardaloedd dŵr croyw a gwlyptir sy’n gynefinoedd pwysig ac yn
gartref i lawer o rywogaethau pwysig. Mae digonedd o ddŵr o’r safon
iawn yn hanfodol er mwyn iddynt barhau i fodoli yn y dyfodol, a
bydd rheoli ein hadnoddau dŵr yn rhan hollbwysig o’r modd y byddwn
yn ymateb i newid yn yr hinsawdd. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn
cymryd rhan mewn nifer o fentrau allweddol er mwyn sicrhau bod
dyfroedd croyw Cymru’n cael eu rheoli’n gynaliadwy.
Polisi, deddfwriaeth a chyfarwyddyd ar gyfer dyfroedd croyw a
gwlyptiroedd
Mae nifer o rannau allweddol o ddeddfwriaethau a pholisïau, y
gall bioamrywiaeth dyfroedd croyw a gwlyptiroedd elwa arnynt. Mae
Cyngor Cefn Gwlad Cymru cynghori ac yn gweithio gydag amrywiaeth
eang o bartneriaid er mwyn sicrhau bod cadwraeth bioamrywiaeth a
gwarchod yr amgylchedd yn rhan annatod o’r ddeddfwriaeth a’r
polisïau sy’n cael eu llunio i reoli dŵr.
Dyma dri phris faes gwaith staff Cyngor Cefn Gwlad Cymru:
- y Gyfeireb Fframwaith Dŵr
- rheoli perygl llifogydd
- llygredd gwasgaredig – rheoli dŵr a thir