Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Rheoli llygredd gwasgaredig, dŵr a thir

Nid yw’n hawdd olrhain pob llygredd i un fan cychwyn fel llong sy’n suddo neu gemegau wedi’u dympio’n anghyfreithlon. Llygredd nad yw’n mynd i mewn i’n cyrsiau dŵr o ben draw peipen yw llygredd gwasgaredig. Mae dŵr ffo oddi ar dir amaethyddol, priffyrdd, trefi neu blanhigfeydd coedwigaeth yn gallu ei achosi.

Mae mathau o lygredd gwasgaredig yn amrywio o gemegau gwenwynig fel Trochlyn Defaid, plaleiddiaid a metelau, hyd at faetholion fel ffosffadau nitrogen. Mae hyd yn oed pridd yn llygrydd mewn dŵr am ei fod yn mygu gwelyau silio ar gyfer pysgod ac yn atal golau’r haul rhag cyrraedd y planhigion sy’n tyfu mewn dŵr.

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Parc Cenedlaethol Eryri a ffermwyr ar gynllun rhagbrofol ar lygredd gwasgaredig. Y nod yw lleihau faint ohono, o ffermydd, sy’n mynd i’r dyfroedd o amgylch Llyn Tegid yng Ngogledd Cymru ac Afon Cleddau yn Sir Benfro. Enw’r prosiect yw ‘Ffermio Sensitif i Ddalgylch Afon’ a gallwch ddarllen rhagor amdano ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru (gweler y ddolen isod).

Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gweithio gyda ffermwyr a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau y byddant yn mynd i’r afael â llygredd gwasgaredig lle bynnag y mae hynny’n achosi problem yn afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd Cymru.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen