Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Y Gyfeireb Fframwaith Dŵr - Beth ydyw?

Darn rhagweithiol o ddeddfwriaeth amgylcheddol yw Cyfeireb Fframwaith Dŵr yr UE. Pan ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2000, fe arweiniodd at newid sylweddol yn y pwyslais ar gyfer rheoli dŵr.

Ei diben yw sefydlu fframwaith i warchod pob un o’r dyfroedd arwyneb a daear mewndirol, yn ogystal â holl ddyfroedd yr aberoedd a’r arfordir, sy’n:

"eu hatal rhag gwaethygu rhagor ac yn gwarchod a hybu’r statws sy’n perthyn i ecosystemau dyfrol ac mewn perthynas â’u hanghenion  dŵr, yr ecosystemau tirol a’r gwlyptiroedd sy’n dibynnu’n uniongyrchol ar ecosystemau dyfrol" (Erthygl 1).

Mae’n ddarn rhagweithiol o ddeddfwriaeth amgylcheddol am ei fod yn gorfodi’r UD i sefydlu amcanion dyheadol ar gyfer ecosystemau dyfrol – ac yna i sefydlu rhaglen o fesurau er mwyn eu cyflawni.

Bydd yr amcanion a’r mesurau hyn yn cael eu disgrifio mewn dogfen gynllunio o’r enw Cynllun Rheoli Basn Afon, a bydd yn rhaid iddo ddod yn rhan o’r gofynion cynllunio presennol.  Un o’r gofynion eraill yn ystod pob cam o’r broses gynllunio, fydd annog y rhai sydd â diddordeb a’r rhanddeiliaid i ‘gymryd rhan weithgar’ yn hyn o beth.
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen