Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Ffermio – at y dyfodol

Yng Nghymru, mae gan amaethyddiaeth rôl bwysig iawn i’w chwarae yn ein cymunedau gwledig o safbwynt economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

Cynghori’r llywodraeth

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n cael ei gynrychioli ar ystod eang o grwpiau cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol gan gynnwys y rhai sy’n delio gyda pholisi amaeth-amgylcheddol, ffermio cynaliadwy a Chyswllt Ffermio.

Rydym yn cynnig cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy ymateb i ymgyngoriadau ar bob mater sy’n ymwneud ag effaith amgylcheddol amaethyddiaeth, gan gynnwys:

  • diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC);
  • paratoi Cynllun Datblygu Gwledig Cymru;
  • rheoli tir comin;
  • Asesu Effeithiau Amgylcheddol;
  • cynllunio gwasanaethau cynghori ffermwyr.

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi helpu i gynllunio nifer o gynlluniau amaeth-amgylcheddol, fel Tir Cymen, Tir Gofal a Thir Cynnal, ac roedd hefyd yn gyfrifol am redeg y cynlluniau hyn hyd at Hydref 2006.

Yn ychwanegol at hyn mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn aelod o Gynghorau Ymgynghorol Ewrop ar yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (EEAC). Rhwydwaith o gynghorwyr statudol o 22 gwlad sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd yw hwn. Nod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw ysgogi trafodaeth ar ystod eang o faterion amgylcheddol sy’n debygol o fod angen newidiadau polisi ar lefel yr UE.

 

Gweithio gyda’n gilydd

www.lupg.org.uk
Mae cydweithio rhwng yr holl asiantaethau sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd yn bwysig. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n aelod o’r Grŵp Polisi Defnydd Tir. Grŵp rhyngasiantaethol yw hwn a’i rôl yw:

  • gwella dealltwriaeth o fecanweithiau polisi amaethyddiaeth a choedwigaeth presennol yr UE;
  • datblygu safbwyntiau cyffredin ynglŷn â chynigion i ddiwygio; a
  • hybu’r safbwyntiau hyn gan ystyried yr un pryd yr amgylchiadau amrywiol sydd yn y DU.

Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Natural England, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur, Treftadaeth Naturiol yr Alban a Gwasanaeth Amgylchedd a Threftadaeth Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen