Cynlluniau Amaeth-Amgylcheddol
Bu Cymru’n arwain gyda chynlluniau
amaeth-amgylcheddol sy’n cyfuno ffermio gyda gofal am yr
amgylchedd. Maen nhw wedi bod ar gael yma ers canol yr 1980au, wedi
eu hariannu’n rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd.
Beth yw’r cynlluniau?
Tir Cymen oedd y cynllun mawr cyntaf, ond cafodd ei ddisodli’n
ddiweddarach gan Tir Gofal. Mae hwn yn cynnig cefnogaeth ariannol i
ffermwyr a pherchnogion sydd eisiau rheoli eu ffermydd cyfan mewn
ffordd garedig at yr amgylchedd. Dyma haen ganol y pyramid o
gynlluniau amaeth-amgylcheddol.
Mae cynllun newydd, Tir Cynnal, wedi cael ei greu ar gyfer ‘dod
i mewn’ i’r maes – gan gynnig ffordd i ffermwyr ddechrau rheoli eu
tir mewn ffyrdd mwy caredig at yr amgylchedd. Dyma waelod y
pyramid.
Mae cynlluniau eraill yn cael eu profi, gan gynnwys grwpiau o
ffermwyr a rheolwyr tir sy’n gweithio o fewn ardal ddaearyddol
benodol, dalgylch afon, er enghraifft. Dyma haen uchaf y
pyramid.
Mae yna hefyd gynllun lleol Amcan 1 o’r enw Rhaglen Tir Eryri
oddi mewn i Barc Cenedlaethol Eryri, a hwnnw’n cynnwys y Cyngor
Cefn Gwlad, y Parc a thirfeddianwyr a rheolwyr.
Beth yw eu nod?
Bwriad y cynlluniau hyn yw annog dulliau ffermio sy’n gwarchod a
gwella adnoddau sylfaenol megis pridd a dŵr, yn ogystal â thirwedd,
nodweddion diwylliannol a bywyd gwyllt. Mae nifer o gynlluniau
Cymreig hefyd yn cynnwys camre i’w gwneud hi’n haws i’r cyhoedd
gyrraedd cefn gwlad a’i fwynhau.
Pwy sy’n eu cynnal?
Bu gan y Cyngor Cefn Gwlad ran yng nghynlluniau
amaeth-amgylcheddol Tir Cymen a Tir Gofal ers 1992. Ers mis Hydref
2006, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am gynnal y cynlluniau hyn o’r
Cyngor i Adran Taliadau Gwledig Llywodraeth y Cynulliad
Cenedlaethol. O ganlyniad, gall y Llywodraeth bellach fod yn
siop-un-alwad i’r rhaglen amaeth-amgylcheddol i gyd. Er
hynny, mae’r rhan fwyaf o staff y cynllun yn parhau i weithio o
swyddfeydd y Cyngor Cefn Gwlad ar hyd a lled Cymru.