Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Cynlluniau amaethyddol-amgylcheddol  – y dyfodol

 

Datblygu rhaglen sy’n annog rhagor o ffermwyr i gymryd rhan mewn cynlluniau sydd o fudd i’r economi.

Adeiladu’r pyramid

Ers 1999, cafwyd sawl newid ym mholisïau amaeth-amgylcheddol Cymru. Bellach mae cynlluniau ar gyfer ffermydd cyfan ar gael ar draws y wlad gan ddisodli’r gymysgedd wreiddiol o gytundebau cyfan a rhannol.

Erbyn hyn mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn credu mai’r ffordd fwyaf effeithiol o weithredu rhaglen amaeth-amgylcheddol Cymreig yw drwy fodel pyramid.

Haen gyntaf: Ar waelod y pyramid mae angen safonau rheoleiddio sy’n cael eu parchu gan bob ffermwr. Rydym hefyd yn argymell system i sicrhau ‘traws-gydymffurfio’ – fel nad yw ffermydd sy’n cael taliadau eraill o dan y Polisi Amaeth Cyffredin yn tarfu ar yr amgylchedd

Dylai’r haen yma wedyn gynnwys taliad blynyddol yn ôl yr hectar yn tâl am reolaeth adnoddau sylfaenol gan gynnwys gwarchod yr awyr, pridd, dŵr, cynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion amgylcheddol eraill sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd.

 Ail haen: Fe ddylai’r haen yma ddelio gyda gwelliannau penodol i gynefinoedd bywyd gwyllt a rheoli rhywogaethau, cadwraeth cnydau traddodiadol a rheoli da byw a thirwedd. Dylai hefyd gynnwys datblygiadau mynediad cyhoeddus newydd yn ogystal â mesurau i reoli llygredd.

Haen uchaf :Byddai hyn yn caniatáu i grwpiau o ffermydd weithio gyda’i gilydd fel uned amgylcheddol neu gymdeithasol-economaidd. Fe fyddan nhw’n derbyn cymorth os yw’r cytundeb rheoli yn cynnig mwy nag a fyddai’n bosib drwy un fferm. 

Gyda Thir Cynnal a Thir Gofal yn cael eu gweithredu eisoes, mae’r gwaith o lunio’r haen uchaf yn mynd rhagddo. Ers 2005, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi bod yn cyfrannu at gynllun peilot Llywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo ffermio sensitif yn nalgylchoedd Llyn Tegid ac Afon Cleddau. Ynghyd â’r Gymdeithas Diogelu Adar, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi comisiynu gwaith ymchwil manwl ar gyfer datblygu’r cynllun rheoli tir cydweithredol yma i Gymru.   

Dylai’r model pyramid fod yn ffordd hawdd i ffermwyr gael gafael ar daliadau yn gyflym. Ar yr un pryd, bydd yn eu hannog i gymryd rhan yn lefelau uwch y rhaglen amaethyddol-amgylcheddol.
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor (Tir Gofal)
C/O Ymholidadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen