Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Cynlluniau Amaeth-Amgylcheddol

Mae polisïau ynglŷn â ffermio a’r amgylchedd wedi newid llawer ers 1999.

Roedd y cynlluniau amaeth-amgylcheddol gwreiddiol yn gymysgedd o gytundebau ar gyfer ffermydd cyfan neu rannau o ffermydd a dim ond mewn rhai ardaloedd yr oedd y rhan fwyaf ar gael.

Ffermio a’r amgylchedd – y polisïau

Mae polisïau ynglŷn â ffermio a’r amgylchedd wedi newid llawer ers 1999.

Roedd y cynlluniau amaeth-amgylcheddol gwreiddiol yn gymysgedd o gytundebau ar gyfer ffermydd cyfan neu rannau o ffermydd a dim ond mewn rhai ardaloedd yr oedd y rhan fwyaf ar gael.

Bellach, mae’r rhain wedi eu disodli i raddau helaeth a chynlluniau newydd wedi eu creu i ddelio â rheolaeth ffermydd cyfan, a hynny trwy Gymru i gyd.

Y cynlluniau cenedlaethol

Erbyn hyn, mae mwy na 3,000 o gytundebau Tir Gofal wedi eu harwyddo, ynghyd â nifer debyg o gytundebau Tir Cymen, sy’n gofyn llai.

Mae Tir Gofal bellach yn cynnwys 330,000 hectar a Thir Cynnal yn cynnwys 200,000 hectar arall. Gyda’i gilydd, dyna bron un rhan o dair o holl dir amaethyddol Cymru.

Cynllun newydd – lefel newydd

Yn ogystal â Thir Gofal a Thir Cymen, mae gwaith wedi dechrau ar gynllun amaeth-amgylcheddol newydd – cynllun ‘haen uchaf’ a fyddai’n ychwanegu lefel uwch o reolaeth.

Ers 2005, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi bod yn cyfrannu at gynllun peilot Llywodraeth Cynulliad Cymru i reoli dalgylch afon gyfan yn ardal Llyn Tegid ac Afon Cleddau.

Yn ogystal, ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gymdeithas Warchod Adar a’r Ymddiriedolaethau Natur, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi comisiynu gwaith ymchwil manwl i arwain y broses o ddatblygu cynllun rheoli tir cydweithredol ar gyfer Cymru. (see link  to pdf file). 


Sut mae’r cynlluniau’n helpu bywyd gwyllt

Mae Strategaeth Amgylchedd Cymru, sydd newydd ei chyhoeddi, yn gosod targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer atal a dadwneud y dirywio a fu yn llawer o fywyd gwyllt Cymru.

Erbyn hyn, mae cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn arf pwysig ar gyfer rheoli rhai o’n cynefinoedd a’n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr.

Bellach, bydd ffermydd sy’n cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAu) yn cael eu tynnu i mewn yn gynt i’r cynllun Tir Gofal ac  mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn croesawu hynny.

Sut mae’r cynlluniau’n helpu’r economi

Ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi comisiynu sawl darn o waith ymchwil i gyfraniad Tir Gofal i economi’r gwahanol ardaloedd. Mae’r rhain yn dangos fod y cynllun yn gwneud cyfraniad sylweddol o ran swyddi ac incwm ychwanegol i fusnesau.


 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor (Tir Gofal)
C/O Ymholidadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen