Y Cyngor Cefn Gwlad a pholisi amaethyddol
Mae gan y Cyngor Cefn Gwlad rôl weithredol
wrth gynghori’r llywodraeth a swyddogion ynglŷn â’r ffordd orau i
ddatblygu a gweithredu polisi amaethyddol.
Dyma rai enghreifftiau ychwanegol o’r polisïau y mae’r Cyngor
Cefn Gwlad yn cynghori yn eu cylch:
Adolygiad o’r polisi Ardaloedd Llai Ffafriol
Mae’n anodd ffermio mewn Ardaloedd Llai Ffafriol – sy’n cynnwys
tua 80% o’n tir amaethyddol - oherwydd yr hinsawdd, nodweddion
tirwedd neu eu lleoliad. Mae hwn yn adnodd sylweddol o
ran tirwedd, amrywiaeth bywyd gwyllt, nodweddion diwylliannol a
mwynhad y cyhoedd.
Cred y Cyngor y dylai’r adolygiad polisi (sydd ar y gweill)
bwysleisio fod rhaid rheoli tir mewn ffordd gynaladwy ac
integredig. Mae angen diogelu adnoddau sylfaenol fel pridd a dŵr;
mae angen i ni allu delio ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ac
mae’n rhaid i ni atal y dirywiad mewn amrywiaeth bywyd
gwyllt.
Cynllun Datblygu Gwledig Cymru
Mae amcanion polisïau datblygu gwledig 2007-13 yn cynnwys
cynyddu gallu cystadleuol y sector amaethyddol, gwell rheolaeth ar
dir, gwella ansawdd bywyd yn yr ardaloedd gwledig a hyrwyddo
agweddau cymunedol.
Cred y Cyngor Cefn Gwlad ei bod hi’n hanfodol mabwysiadu dulliau
integredig er mwyn gwireddu’r amcanion hyn.
Mae angen inni hefyd gynnal y rhaglen Tir Gofal. Bydd targed
blynyddol o greu 500 o gytundebau a 50,000ha yn helpu i
gynnal hygrededd y cynllun yng Nghymru ac ar draws Ewrop.
Mae Cynllun Gweithredu Strategaeth Amgylchedd Cymru wedi gosod
targedau pendant ynglŷn â chyflwr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Er mwyn cyrraedd y
targedau hyn, mae angen Tir Cynnal yn ogystal â Thir Gofal gan fod
y cyntaf yn fwy eang. Os nad fydd y gronfa Tir Cynnal yn cael ei
defnyddio’n llawn, mae’r Cyngor yn argymell yn gryf y dylai’r arian
dros ben gael ei ddefnyddio i greu mwy o gytundebau Tir Gofal, yn
ogystal â datblygu’r cynllun rheoli tir cydweithredol ar yr haen
uchaf.
Cynlluniau Taliad Sengl
Yn y gorffennol, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi galw am gyflwyno
Cynlluniau Taliad Sengl cyn gynted â phosib ar yr amod fod hynny’n
cydredeg gydag ailgyfeirio’r gwasanaeth Cyswllt Ffermio.
Mae’r Cyngor wedi nodi hefyd y byddai symud yn rhy gyflym tuag
at daliadau ardal yn effeithio’r economi gwledig yng Nghymru yn y
tymor byr.
Awgrymwyd fod angen mwy o waith i ganfod os yw’n bosib
cynllunio system ardal a fyddai’n lleihau’r effaith ar yr economi
gwledig, o bosib drwy ei chyflwyno yn raddol.