Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Tir comin – y ffeithiau

Tir comin yw mwy na 8% (173,366 hectar) o holl dir Cymru. Glaswelltiroedd a rhostir yw’r mwyafrif, gydag ardaloedd o redyn tal, corsydd a mawnogydd.

  • Mae 45% o dir comin Cymru oddi mewn i Safleoedd o
  • Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
  • Mae 45% o dir comin Cymru oddi mewn i Barcia
  • Cenedlaethol.
  • Mae 99% o dir comin Cymru yn agored i’r cyhoedd.

Tir Comin – enghreifftiau

Mae’r llefydd sy’n dilyn i gyd yn enghreifftiau o dir comin yng Nghymru. Mae rhai yn bwysig oherwydd eu cynefinoedd ac eraill am eu rhywogaethau:

Cynefin

  • Corgors neu fignen  - Elenydd, Migneint, Berwyn
  • Cyforgors neu siglen  - Cors Fochno, ger Borth
  • Twyni tywod   - twyni Aberffraw yn Ynys Môn
  • Rhostir sych   - tir comin gogledd-orllewin Sir Benfro
  • Glaswelltir calaminaraidd (ar hen gloddfeydd) – Comin Helygain

Rhywogaethau

  • Mursen y de, brith y gors - Comin Gŵyr ger Abertawe
  • Adar yr ucheldir  - Berwyn, Elenydd a Mallaen
  • Brain coesgoch - Penrhyn Dewi (Sir Benfro) a
  • Phenrhosfeilw (Môn)
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen