Pridd – mor werthfawr â choedwigoedd glaw
Mae pridd yn rhan allweddol o’n treftadaeth
naturiol gan gyflawni amrywiaeth eang o swyddogaethau. Mae
priddoedd hefyd ymhlith cynefinoedd mwyaf amrywiol y ddaear gyda
chymaint o rywogaethau â choedwigoedd glaw trofannol.
Mae priddoedd yn cael eu colli oherwydd datblygu, a’u gwerth yn
gostwng o ganlyniad i ddefnydd tir. Oherwydd eu bod yn cymryd
cymaint o amser i ffurfio, mae modd eu hystyried yn adnoddau na
fedrwn ni eu hadnewyddu.
Rheoli pridd
Dim ond yn ddiweddar y daeth pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd
pridd ac, yn 1996, cafwyd adroddiad arbennig “Sustainable Use of
Soil”, yn gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU. Awgrymodd y
dylai’r Llywodraeth baratoi strategaeth i sicrhau fod priddoedd yn
cael eu gwarchod yn iawn a’u defnyddio mewn ffordd gynaladwy.
Gwaith y Cyngor Cefn Gwlad
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi chwarae rhan allweddol wrth
ddatblygu polisïau cenedlaethol ac Ewropeaidd ar bridd. Rydym hefyd
yn rhoi cyngor ynglŷn â chadwraeth pridd ac yn ceisio cynyddu
dealltwriaeth o faterion pridd yn y DU.