Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Ffiniau Traddodiadol – cynefin o bwys

Mae diogelu’r ffiniau traddodiadol yn ein tirwedd Cymreig prydferth yn nod bwysig i’r Cyngor Cefn Gwlad. Mae’n gwrychoedd, ein waliau sychion, ffensys llechi a chloddiau, yn helpu i wneud cefn gwlad Cymru yn unigryw. Maent hefyd yn offeryn gwerthfawr i reoli fferm ac yn darparu cynefin allweddol i lawer o fywyd gwyllt Cymru. Dim syndod, felly, bod eu gwarchod, eu hadfer a’u gwella yn rhywbeth y mae CCGC yn gweithio’n galed i’w hybu.

Wedi eu gwneud, eu siapio a’u ffurfio o’r toreth o ddefnydd naturiol a oedd wrth law, roedd ffiniau traddodiadol yn nodi terfynau gwahanol barseli o dir ffermio, fel cae, ffridd a bryn agored. Roeddent hefyd yn gwahanu tir fferm o ddefnyddiau eraill, fel coedwigaeth, trefi, cysylltiadau trafnidiaeth, camlesi a’r môr. Gellir rhannu mathau traddodiadol o ffin, yn cynnwys gwrychoedd, waliau cerrig, ffensys llechi a chloddiau, yn ddau brif grŵp:

  • gwrychoedd
  • waliau sychion a chloddiau eraill

Gwrychoedd

Ffiniau ffermdir llinelloll yw gwrychoedd, wedi eu ffurfio o rywogaethau coediog. Mae’r rhan yn cael eu tocio, eu coedlannu neu eu gosod i gynnal strwythur fel llwyn ac i’w hatal rhag mynd yn rhes o goed. Yn nodweddiadol, ceir amrywiaeth eang o rywogaethau mewn clawdd, yn cynnwys y ddraenen wen, y ddraenen ddu a rhywogaethau coed cynhenid, er bod y rhywogaethau’n amrywio ledled Cymru. Mae gwrychoedd yn fwyaf cyffredin ar dir isel neu fryniau isel, gan ildio’u lle i gloddiau a waliau cerrig yn yr ucheldiroedd a’r ardaloedd arfordirol.

Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU yn cydnabod gwrychoedd hynafol a/neu gyfoethog mewn rhywogaethau yn gynefinoedd blaenoriaeth. Yng Nghymru, ystyrir bod gwrych yn gyfoethog mewn rhywogaethau os oes pump neu ragor o rywogaethau coediog cynhenid ar gyfartaledd mewn hyd o 30m, neu bedwar neu fwy o rywogaethau yn ucheldir Cymru. Rydym hefyd yn ystyried bod gwrychoedd â fflora llawr cyfoethog ond llai o rywogaethau coediog yn gyfoethog mewn rhywogaethau.

Strwythurau Carreg a llethrau pridd eraill

Mae’r rhain yn cynnwys waliau sychion, ffensys llechi a chloddiau – gydag wyneb carreg a llethrau pridd eraill. Gwelir y ffiniau cae traddodiadol yma mewn ardaloedd ucheldir ac arfordirol fel arfer, lle na fyddai gwrychoedd wedi gallu tyfu’n llwyddiannus iawn. Maent hefyd yn cynnwys rhai morgloddiau a wnaed o ddefnyddiau naturiol.

 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen