Rheoli coedwigoedd a choetiroedd
Mae coed a choetiroedd yn rhannau allweddol o
dirwedd Cymru heblaw ar y tiroedd uchaf a’r glannau mwyaf
gerwin.
Mae bron 14% o dir Cymru o dan goed. Coetiroedd conwydd yw 48%
o’r rhain a choetiroedd llyndanddail yw 37%.
Mae yna hefyd tua 15 miliwn o goed yng Nghymru sydd heb fod mewn
coetiroedd.
Pam fod coed yn bwysig
- Mae coedwigoedd a choetiroedd yn llawn bywyd gwyllt
- Maen nhw’n cynnig llefydd i hamddena
- Maen nhw’n storio carbon
- Maen nhw’n darparu pren a chynhyrchion eraill
- Maen nhw’n helpu i leihau llifogydd
- Maen nhw’n creu swyddi
- Maen nhw’n bwysig o ran hanes a diwylliant.
Rheoli coedwigoedd a choetiroedd
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn hyrwyddo rheolaeth gynaladwy o goed a
choetiroedd a byddai’n hoffi gweld cynnydd graddol mewn coetiroedd
yng Nghymru, oherwydd y lles a ddaw o hynny.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am werth coetiroedd i’w chael o Restr
Cenedlaethol y Comisiwn Coedwigaeth o Goedydd a