Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Polisïau ar gyfer y môr

Mae ein moroedd a’n harfordir yn gartref i bob math o rywogaethau sydd wedi helpu i lunio ein diwylliant a’r economi. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod amgylchedd y môr yn gynaladwy i’r dyfodol. Mae’n bwysig cael fframwaith polisi a deddfwriaeth cryf os ydym am gyrraedd y nod.

Mae gwarchod y môr yn bwysig gan fod :

  • Tua 70% o’r arfordir wedi ei ddynodi yn Safleoedd Morol Ewropeaidd oherwydd ei gynefinoedd a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno.
  • Mae pob un o ddinasoedd mawr Cymru ar yr arfordir gyda 60% ohonom yn byw neu’n gweithio yno.
  • Mae gan 52,000 o swyddi yng Nghymru gysylltiad ag amgylchedd y môr, yn bennaf drwy’r diwydiant ymwelwyr. Mae’n cyfrannu £2.46 miliwn (GDP) at economi Cymru.

Cydweithio

Yn ogystal â chynnig cyngor i’r Llywodraeth, i ddiwydiant a chyrff cyhoeddus, mae’r Cyngor Cefn Gwlad hefyd yn gweithio’n agos gydag asiantaethau tebyg eraill - English Nature: Natural England, Scottish National Heritage a’r Cyd bwyllgor Cadwraeth Natur. Fel hyn, gallwn wneud yn siŵr fod polisïau o fudd i amgylchedd forol Cymru.

 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen