Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Cyngor Rheoliad 33 Safleoedd Morol Ewropeaidd

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi llunio cyngor ar gyfer awdurdodau perthnasol dan Reoliad 33 Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) 1994.   Cyfeirir at y cyngor hwn fel ‘pecyn Rheoliad 33’

Diben Safleoedd Morol Ewropeaidd yw gwarchod y cynefinoedd a’r rhywogaethau morol rhyngwladol bwysig a geir o’u mewn.

Yn ôl Rheoliad 33 y Rheoliadau Cynefinoedd, mae gennym gyfrifoldeb i roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol (sef yr asiantaethau a’r awdurdodau statudol sy’n gyfrifol am Safleoedd Morol Ewropeaidd) beth yw amcanion cadwraethol y safleoedd, gan ddweud wrthynt hefyd pa weithgareddau a all niweidio neu darfu ar y nodweddion arbennig.

Dilynwch y cysylltau isod i weld y cyngor ar gyfer:

  • Pembrokeshire Marine / Sir Benfro Forol 
  • Cardigan Bay / Bae Ceredigion 
  • Carmarthen Bay and Estuaries / Bae Caerfyrddin a’r Aberau
  • Pen Llŷn a’r Sarnau / Lleyn Peninsula and the Sarnau
  • Y Fenai a Bae Conwy / Menai Strait and Conwy Bay
  • Severn Estuary / Mör Hafren
  • Dee Estuary / Aber Dyfrdwy

Os ydych angen fersiwn Gymraeg o unrhyw ran o’r dogfennau hyn, cysylltwch ag ymholiadau@ccw.gov.uk.

Mae ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o fywyd gwyllt yn gwella’n barhaus.  Efallai y bydd materion newydd yn codi yn y dyfodol, ac efallai y bydd rhai eraill yn diflannu.  Mae’r cyngor hwn wedi ei ysgrifennu ar sail yr wybodaeth orau sydd gennym ar hyn o bryd, ond efallai y bydd angen ei newid yn y dyfodol wrth i’n dealltwriaeth wella.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen