Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Beth yw defnydd tir a pham ei fod yn bwysig?

Rydym yn defnyddio’r tir i gynhyrchu bwyd, ffeibr, coed ac ynni – pethau y mae ein bywydau yn dibynnu arnynt. Mae’r ffordd y byddwn yn defnyddio’r tir yn cael effaith uniongyrchol ar yr amgylchedd – o natur tirwedd i adnoddau naturiol..

Mae defnydd tir mewn ardaloedd gwledig yn golygu mwy na chynhyrchu bwyd a choed yn unig. Mae’n darparu swyddi i’r bobl sy’n byw yno – sail economaidd i gymunedau gwledig sy’n dylanwadu ar ansawdd byw y bobl. 

Mae’r berthynas rhwng ffermio, coedwigaeth, cymunedau lleol a’r amgylchedd wedi newid yn ystod y degawdau diweddar. Mae arferion rheoli tir yn fwy dwys ac yn fwy arbenigol erbyn hyn. Mae’r newidiadau hyn wedi eu cysylltu â dirywiad yn amrywiaeth byd natur – o ran rhywogaethau ac ansawdd y pridd a’r dŵr. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gweithio ym myd amaeth a choedwigaeth, a hynny’n cael effaith sylweddol ar lawer o gymunedau gwledig.

Sut mae’r newidiadau wedi digwydd?  Mae’n debyg eu bod wedi codi yn sgîl cyfuniad o ffactorau gan gynnwys :

  • Effeithiau’r Polisi Amaeth Cyffredin
  • Datblygiadau technolegol
  • Patrymau prynu gwahanol
  • Disgwyliadau cymdeithasol  

Yn gynyddol, mae materion fel globaleiddio’r farchnad, newid yn yr hinsawdd a disgwyliadau’r cyhoedd yn mynd i ychwanegu at y pwysau sydd ar ddiwydiannau traddodiadol cefn gwlad a’r cymunedau.

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn aelod o grŵp sawl-asiantaeth o’r enw y Grŵp Polisi Defnydd Tir (LUPG). Drwy’r grŵp yma, rydym yn ceisio gwella ein dealltwriaeth o drefniadau polisi cyfredol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd ac yn datblygu safbwyntiau cyffredin ynglŷn â’r ffordd orau i’w diwygio.

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen