Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Ein gwaith ni

Dychmygwch fyd ble mae pawb yn gofalu am yr amgylchedd ac yn ei werthfawrogi’n llawn. Dyna nod y Cyngor Cefn Gwlad yng Nghymru. Rydym am weld y tir a’r môr yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaladwy er lles bywyd gwyllt ac er lles ein pobl.

Rydym yn ceisio dylanwadu ar ddatblygu a gweithredu polisïau ac arferion sy’n helpu i:

  • Ddiogelu a gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt, tirweddau, morweddau ac asedau diwylliannol
  • Ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad i gefn gwlad a’r arfordir mewn ffordd gyfrifol
  • Wella ein dealltwriaeth o gefn gwlad a’r arfordir
  • Ddarparu swyddi o ansawdd a bywoliaeth hyfyw i’r rhai sydd yn rheoli’r tir a’r môr
  • Gynnal a chefnogi cymunedau gwledig bywiog
  • Ddelio â’r problemau sy’n codi yn sgîl y newid yn yr hinsawdd

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn cynghori Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol ar lawer o faterion yn ymwneud â defnyddio a rheoli’r tir a’r môr ac mae gennym gynrychiolwyr ar nifer fawr o grwpiau rheoli tir a môr.

 

Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim defnyddio tir a mor
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen