Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Gwarchod ein tirwedd

Mae gennym dirweddau ymysg y mwyaf amrywiol a deniadol yn y byd. Caiff ymhell dros chwarter arwyneb y tir yng Nghymru ei warchod oherwydd ei dirweddau o safon. Maent yn bwysig i’n ffyniant cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, gan ddenu ymwelwyr a busnesau fel ei gilydd.

Tirweddau a safleoedd arbennig

Mae Cymru’n llawn o fannau hardd. Dynodwyd 30% o dir a dyfroedd Cymru fel ‘arbennig’ - trwy gyfreithiau’r DU, Ewropeaidd neu Ryngwladol.

Tirweddau Gwarchodedig
Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thirweddau gwarchodedig eraill.

Dynodiadau Ewropeaidd a Rhyngwladol
Dynodiadau Natura 2000, Ramsar, Cyngor Ewrop ac UNESCO.

Datblygiad Cynaliadwy
Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyfoethogi a gwarchod ansawdd ein tirweddau.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Ceir 71 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG) yng Nghymru sy’n amrywio mewn maint o hanner hectar i bron i 8,000 hectar.

Cytundeb Tirwedd Ewropeaidd

Dysgu mwy am y cytundeb rhyngwladol cyntaf erioed hwn i ganolbwyntio’n benodol ar dirwedd, a gadarnhawyd gan y DU ar 1 Mawrth 2007.

Map safleoedd gwarchodedig

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Gwarchodfeydd Morol, Parciau Cenedlaethol, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - a mwy. Cyfoeth naturiol Cymru ar flaenau’ch bysedd.

Asesu’r dirwedd

Tirweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi am roi cipolwg o’n treftadaeth hanesyddol, ddiwylliannol a hyd yn oed ddiwydiannol ... morweddau ysblennydd sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae gan Gymru cymaint o dirweddau a morweddau i ymfalchïo ynddynt. Cewch wybod sut y byddwn yn helpu nodi, asesu a chadw trysorau’r genedl.

Dywedwch wrthym am...

Mae Cymru’n llawn o fannau arbennig - ac mae pobman yn arbennig i rywun.
Pam na soniwch wrthym am eich tirwedd arbennig.

Lawrlwytho o’r System Gwybodaeth Ddaearyddol

Arbenigwyr mapiau unwch! Gallwch lawrlwytho ein ffiniau daearyddol diweddaraf o’r lliaws safleoedd gwarchodedig yng Nghymru...

LANDMAP

Tirweddau hardd a meddwl yn ofalus
Cewch ddysgu mwy am reoli tir yn gynaliadwy trwy ein LANDMAP - profiad mapio unigryw, i’w ailgynllunio’n fuan!

Ein safleoedd eraill
Help

Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Y tim tirwedd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen