Gwarchod ein tirwedd
Mae gennym dirweddau ymysg y mwyaf amrywiol a
deniadol yn y byd. Caiff ymhell dros chwarter arwyneb y tir yng
Nghymru ei warchod oherwydd ei dirweddau o safon. Maent yn bwysig
i’n ffyniant cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, gan ddenu
ymwelwyr a busnesau fel ei gilydd.

Mae Cymru’n llawn o fannau hardd. Dynodwyd 30% o dir a dyfroedd
Cymru fel ‘arbennig’ - trwy gyfreithiau’r DU, Ewropeaidd neu
Ryngwladol.
Tirweddau
Gwarchodedig
Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thirweddau
gwarchodedig eraill.
Dynodiadau Ewropeaidd a
Rhyngwladol
Dynodiadau Natura 2000, Ramsar, Cyngor Ewrop
ac UNESCO.
Datblygiad
Cynaliadwy
Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i
gyfoethogi a gwarchod ansawdd ein tirweddau.
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Ceir 71 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG) yng Nghymru sy’n
amrywio mewn maint o hanner hectar i bron i 8,000 hectar.
Dysgu mwy am y cytundeb rhyngwladol cyntaf erioed hwn i
ganolbwyntio’n benodol ar dirwedd, a gadarnhawyd gan y DU ar 1
Mawrth 2007.
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Gwarchodfeydd Morol,
Parciau Cenedlaethol, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - a
mwy. Cyfoeth naturiol Cymru ar flaenau’ch bysedd.

Tirweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi am roi cipolwg o’n
treftadaeth hanesyddol, ddiwylliannol a hyd yn oed ddiwydiannol ...
morweddau ysblennydd sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae gan
Gymru cymaint o dirweddau a morweddau i ymfalchïo ynddynt. Cewch
wybod sut y byddwn yn helpu nodi, asesu a chadw trysorau’r
genedl.
Mae Cymru’n llawn o fannau arbennig - ac mae pobman yn arbennig
i rywun.
Pam na soniwch wrthym am eich tirwedd arbennig.
Arbenigwyr mapiau unwch! Gallwch lawrlwytho ein ffiniau
daearyddol diweddaraf o’r lliaws safleoedd gwarchodedig yng
Nghymru...
Ar y tudalennau hyn ceir cysylltau lle gallwch lawrlwytho
amcanion cadwraethol ar gyfer ACA, AGA a safleoedd Ramsar
Cymru.