Asesu tirwedd
Mae Cymru’n llawn o lefydd gwahanol. Mae
pobman yn arbennig i rywun.
Dyna pam ei bod hi’n bwysig ystyried pob tirwedd – a’r hyn sy’n
eu gwneud yn hynod ac arbennig – wrth ystyried datblygiadau neu
newid mewn defnydd tir.
Rhaid i ni wneud hyn mewn ffordd systematig
ac, felly, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi datblygu ffyrdd o asesu
tirwedd.
LANDMAP
LANDMAP yw’r brif ffynhonnell ar gyfer
gwybodaeth i asesu tirwedd. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd
gyson a chynhwysfawr ym mhob awdurdod lleol a bydd, cyn hir, yn
cynnwys Cymru gyfan.
Dulliau eraill
Mae dulliau eraill o asesu tirwedd yn fwy
arbenigol:
- Mae gyda ni lawer o dirweddau hanesyddol
eithriadol ac arbennig yng Nghymru. Mae’r goreuon wedi eu cynnwys
mewn Cofrestr o Dirweddau Hanesyddol.
- Tirwedd anarferol i’w hasesu yw glan y môr. Rhaid cael cynllun
ar gyfer datblygiadau yn y môr ac mae dull arbennig o’r enw
asesu morweddau wedi ei greu a’i ddefnyddio.
Dyw tirweddau ddim yn parchu ffiniau ac os
yw’r ardal sy’n eich diddori chi yn croesi’r ffin â Lloegr, rhaid
ichi ddarllen sut mae tirwedd yn cael ei asesu yno er mwyn deall y
darlun llawn.