Ffin draddodiadol
Mae amrywiaeth cyfoethog o ffiniau
traddodiadol yng Nghymru. Mae hyn yn gwahaniaethu un ardal oddi
wrth y llall ac yn gwella’r dirwedd.
Beth yw ffin draddodiadol?
Mae gwahanol fathau o ffiniau traddodiadol-
gwrychoedd y Gororau, cloddiau Llŷn a de-orllewin Môn a waliau
cerrig uchel y ffriddoedd a’r mynyddoedd.
Mae’r rhan fwyaf o ffiniau traddodiadol yn
parhau i wneud yr un gwaith â phan godwyd nhw yn y lle cyntaf – i
nodi rhaniadau rhwng eiddo ac i amddiffyn cnydau ac
anifeiliaid.
Maen nhw hefyd yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt
– yn rhoi cysgod ac yn diogelu rhywogaethau sy’n methu byw ar dir
agored.
Yn aml, mae ffiniau o ddiddordeb hanesyddol
hefyd – yn ein hatgoffa o batrymau tir sy’n bod ers canrifoedd a
thir sydd wedi’i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Ar hyn o bryd mae CCG yn casglu mwy o
wybodaeth ynglŷn â dosbarthiad y gwahanol ffiniau traddodiadol yng
Nghymru. Mae’n hanfodol fod y ffiniau traddodiadol mwyaf prin yn
cael eu nodi a’u diogelu.