Y Confensiwn Tirwedd Ewropeaidd
(CTE)
Y CTE yw’r cytundeb rhyngwladol cyntaf i
ddelio’n arbennig â thirwedd. Mae’r datblygiad hwn dan Gyngor Ewrop
yn cynnig fframwaith eang ar gyfer cynllunio a rheoli pob tirwedd
ar draws y gwledydd sy’n aelodau. Mae bellach yn cynnwys y DU a
arwyddodd a chymeradwyo’r CTE, i ddod yn weithredol o 1 Mawrth 2007
ymlaen.
Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn falch o allu cefnogi diffiniad y CTE
o ‘dirwedd’, fel “ardal, fel y gwelir hi gan bobl, sydd â’i
chymeriad yn ganlyniad i effaith ffactorau dynol a naturiol a’r
gweithio a’r adweithio rhyngddyn nhw”.
Mae’r CTE yn cyfleu cytundeb ynglŷn â rhai egwyddorion a
gweithredoedd craidd:
- Sicrhau fod pobl – o bob diwylliant a chymuned – a’u
hamgylchedd, wrth galon cynllunio gofodol a datblygu
cynaladwy.
- Cydnabod fod tirwedd ymhobman, nid mewn llefydd arbennig yn
unig a, boed yn hardd neu wedi’i difrodi, ei bod yn dreftadaeth
gyffredin i bawb.
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dirwedd a’i gwerth, yn
fframwaith sy’n uno pob sector o ddefnydd tir.
- Hyrwyddo agwedd fwy cyfansawdd, hygyrch a blaengar at reoli
tirweddau a etifeddwyd a thirweddau newydd.
Mae’r ymrwymiadau hyn yn cael eu gweithredu o
fewn fframwaith polisi a chyfraith cartref. Mae hyn yn bwysig,
oherwydd ei fod yn caniatáu inni weithredu oddi mewn i’r trefniadau
sydd gennym eisoes ar gyfer trin ein tirwedd, gan adeiladu ar y
gwaith sydd wedi ei wneud.
Yr un mor bwysig, mae’r CTE yn dangos agwedd
realistig ac yn edrych ymlaen, yn hytrach na chanolbwyntio ar
warchod: ystyrir fod creu tirweddau’r dyfodol yn llawn cymaint o
darged â rheoli’n gynaladwy y rhai a etifeddwyd gennym.
Safleoedd eraill...
Maer safleoedd yma ar gael yn Saesneg
yn unig.
Cyngor Ewrop
Darllenwch am y CTE a beth mae hyn yn olygu i ni.
CTE
Testun cytundeb y CTE