Lawrlwytho SGDd – Croeso
Croeso i dudalennau lawrlwytho data
SGDd. Mae’r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth am ddata
sydd gennym yn ymwneud â’n System Gwybodaeth Ddaearyddol (SGDd),
ynghyd â’r setiau data hynny sydd ar gael i’w
lawrlwytho. Nid yw data digidol o fath arall, er
enghraifft mapiau cefndir, yn cael ei gynnwys. Er mwyn
gweld, ymholi neu ddadansoddi’r data hwn, fe fyddwch angen
meddalwedd SGDd neu feddalwedd ar gyfer edrych ar fapiau.
Rydym wedi cael gwybod na cheir caniatâd i ddefnyddio
ein Setiau Data Ardaloedd Gwarchodedig (sydd wedi deillio o Fapiau
Sylfaenol yr Arolwg Ordnans) ar raglenni Google Earth a Google
Maps, oherwydd y posibilrwydd o dorri Hawliau Eiddo Deallusol yr
AO.
Felly, rydym yn hysbysu ein cwsmeriaid ynghylch y
sefyllfa, gan eu cynghori i beidio â defnyddio ein data yn y ffordd
yma.
Fodd bynnag, mae Microsoft a’r Arolwg Ordnans wedi dod i drefniant,
ac fe allai Amodau a Thelerau Trwyddedu addas ganiatáu ichi
ddefnyddio’r Data ar Virtual Earth.
Rydym yn eich cynghori i ddarllen Amodau a Thelerau unrhyw
drefniadau trwyddedu â Google Earth, Google Maps a Virtual Earth yn
ofalus iawn.
Y gobaith yw y bydd yr Arolwg Ordnans a Google yn dod i gytundeb
yn y dyfodol agos.
01/09/2010
Mae newidiadau ac ychwanegiadau wedi cael eu gwneud i nifer o
setiau data:
AHNE – ac eithrio AHNE Dyffryn Gwy, mae pob
safle erbyn hyn wedi eu digido yn erbyn OS MasterMap
ACA – Mân newidiadau i rai priodoleddau;
Hysbysu Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion / Meirionnydd
Oakwoods and Bat Sites - 05/07/2010
AGA - Dosbarthu AGA Liverpool Bay / Bae Lerpwl
- 20/08/2010
SoDdGA - Hysbysu:
SoDdGA Mwyngloddfa Pennant - 11/08/2010
SoDdGA - Cadarnhau:
Afon Irfon - 08/07/2010
Brithdir a Chwm Mawr - 08/07/2010
Rhosydd Nant Eithrim - 08/07/2010
Rhosydd Llanpumsaint - 13/08/2010
Creuddyn - 19/08/2010
Newidiadau i SoDdGA Brithdir a Chwm Mawr
Yn anffodus, nid yw’r set ddata Coetiroedd Lled-naturiol a
Hynafol ar gael i’w lawrlwytho, ond gellir anfon copi atoch trwy
e-bost.
05/01/2009
Mae mân newidiadau
wedi’u cyflwyno i nifer o safleoedd o fewn nifer o setiau data.
Mae’r rhain yn cynnwys:
SoDdGA;
AGA;
ACA.
Rydym yn eich cynghori i adnewyddu pob un o’r setiau data
yma.
Hefyd, cadarnhawyd SoDdGA Rhymney River Section (Awdurdod Unedol
Caerdydd) ar 06/11/2008.
Ym mhob set ddata, mae maes priodoleddau newydd wedi’i ychwanegu
“metadata_ref”. Mae ganddo gyswllt url â’n hadnodd OLIB ac mae’n
cynnwys metaddata cyfamserol ar gyfer pob set ddata.
01/09/2008
Mae’r setiau data isod
yn awr wedi’u cywiro’n gyfan gwbl yn ôl MasterMap yr Arolwg Ordnans
ar ôl gwelliant cywirdeb lleoliadol (PAI):
SoDdGA
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
a Ramsar
ac rydym yn gweithio ar y dynodiadau eraill ar hyn o bryd.
Yn ychwanegol at hyn, gwnaethpwyd cywiriadau, newidiadau i’r
canlynol:
Gwarchodfa Natur
Genedlaethol:
Gwlyptiroedd Casnewydd - Hysbyswyd
SoDdGA:
Rhos Tonyrefail - Hysbyswyd
Porfeydd Nant Clydach
SoDdGA Tŷ Bach Hen Ysgol Arthog – Yr enw wedi’i newid i SoDdGA Tŷ
Bach Ystlumod – Cadarnhawyd
16/04/07
Os hoffech ddefnyddio
unrhyw un o’r setiau data hyn ar gyfer menter fasnachol, yna fe
fydd yn rhaid i chi gysylltu â ni i gael caniatâd i wneud hynny dan
Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Gyhoeddus. Hefyd, fe
fyddwch angen cael caniatâd oddi wrth yr Arolwg Ordnans, sy’n cadw
Hawliau Eiddo Deallusol dros y data hwn.
Mae nifer o newidiadau wedi’u cyflwyno i’r Setiau Data Safleoedd
Gwarchodedig:
SoDdGA:
Ganllwyd – Cadarnhau
Craig y Don – Ymestyn
Coedydd Derw Elwy – Newid
Tŷ Bach Hen Ysgol Arthog – Hysbysu
Rhan o Afon Rhymni – Hysbysu
Gwarchodfeydd Natur Lleol:
Coedydd Dingle
Uchaf – dynodwyd
Coedydd Bodlondeb - dynodwyd
Gwarchodfa Natur
Genedlaethol:
Gwlyptiroedd Casnewydd - Hysbysu
Mae’r holl Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn awr wedi’u cywiro
yn ôl MasterMap yr Arolwg Ordnans ar ôl gwelliant cywirdeb
lleoliadol (PAI).
10/03/2008
Mae nifer o setiau data
wedi’u diweddaru:
SoDdGA:
Craig y Don – ei ymestyn
Tÿ Bach Hen Ysgol Arthog – ei hysbysu
Rhymney River Section – ei ailhysbysu
Coedydd Derw Elwy – newid priodoledd
Rhosneigr Reefs – newid ffin
Penstrowed Quarry – ei gadarnhau
Coedydd y Barri – ei gadarnhau
Ynys Llanddwyn – newid ffin
Ganllwyd – ei gadarnhau
GNLl:
Dingle Uchaf – ei hysbysu
Coetir Bodlondeb – ei hysbysu
GNC:
Mae’r holl safleoedd wedi’u haddasu
ar gyfer y cynllun PAI ac wedi’u rhoi ar OS Mastermap
Glan yr Afon – ei ddynodi
16/11/07
Mae dwy o setiau data
wedi’u diweddaru.
Ceir dau ychwanegiad at y set ddata Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig, gan fod Ymgeiswyr am ACA Afon Dyfrdwy a Môr Hafren wedi’u
hysbysu.
Hefyd, cafodd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig newydd –
Rhos Tonyrefaill yn Awdurdod Unedol Rhondda Cynon Taf – ei hysbysu
ar 3 Hydref.
Cyn i chi allu lawrlwytho’r setiau data, fe fydd yn rhaid i chi
gytuno ag Amodau a Thelerau’r Drwydded Ddata, gan gofrestru gyda ni
wedyn. Caiff yr wybodaeth a roddwch wrth gofrestru ei
hystyried yn gyfrinachol dan y Ddeddf Diogelu Data, a dim ond y
Cyngor Cefn Gwlad fydd yn defnyddio’r wybodaeth honno ar gyfer
gwella’r gwasanaeth a gynigir i chi ar y tudalennau lawrlwytho.
Wrth i wefan newydd y Cyngor ddatblygu, ein bwriad yw cynyddu
nifer y setiau data ar-lein sydd ar gael. Rydym eisiau
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch datblygiadau a
chynlluniau cyfredol, felly cofiwch fwrw golwg dros y tudalennau’n
gyson.
I weld pa setiau data sydd ar gael, i gael gwybodaeth dechnegol
ac i weld y cytundeb trwydded, cliciwch ar y tabiau ar yr ochr
chwith dan Cynnwys. Yna, cewch eich arwain at yr adran
lawrlwytho.