Gwybodaeth am setiau data SGDd
Mae ein System Gwybodaeth Ddaearyddol (SGDd)
wedi ei ffurfio o lawer o setiau data gwahanol, a gallwch
lawrlwytho nifer o’r rhain oddi ar y tudalennau hyn.
Casgliad o ddata a gaiff ei storio ar ffurf tabl yw set
ddata. Hefyd, gellir cynrychioli set ddata mewn modd
gofodol trwy ddefnyddio map rhyngweithiol.
Mae setiau data safleoedd gwarchodedig y Cyngor yn cynnwys
gwybodaeth am y canlynol:
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbenni
SoDdGA).
Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys
ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac
ucheldiroedd.
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
(ACA).
Safleoedd a gaiff eu gwarchod yn llym yw ACA,
ac maen nhw wedi cael eu dynodi yn ôl cyfraith Ewrop.
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
(AGA).
Safleoedd a gaiff eu gwarchod yn llym er mwyn
diogelu adar gwyllt yw AGA, a chânt eu dosbarthu dan y Gyfarwyddeb
Adar.
- Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol (Safleoedd
Ramsar).
Mae gwlyptiroedd yn ardaloedd hynod
bwysig.Ynddyn nhw, ceir amrywiaeth biolegol rhyfeddol a digonedd o
ddŵr ar gyfer cynnal nifer fawr o blanhigion ac anifeiliaid
gwahanol.
- Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
(GNC).
Yng Nghymru, ceir gwarchodfeydd natur
ysblennydd sy’n ymestyn o’r Gogarth yn y gogledd i Ddyffryn
Mawddach yn y de.
- Gwarchodfeydd Natur Morol (GNM).
Diben GNM yw gwarchod bywyd gwyllt y môr a nodweddion daearegol o
ddiddordeb arbennig, gan ddarparu cyfleoedd yr un pryd i bobl gael
astudio’r systemau morol hyn.
- Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
(AHNE).
Fel arfer, mae AHNE yn arwydd o dirwedd arbennig a harddwch
eithriadol. Nid yw AHNE, o angenrheidrwydd,o werth cadwraethol
uchel, ond mewn gwirionedd mae gan sawl ardal o’r fath werth
cadwraethol.
- Arfordiroedd Treftadaeth.
Cafodd y
cynllun i ddosbarthu arfordiroedd treftadaeth ei roi ar waith yn
1972 er mwyn diogelu arfordiroedd sy’n werthfawr o safbwynt eu
harddwch a’u nodweddion amgylcheddol ac er mwyn sicrhau na chânt eu
datblygu mewn modd amhriodol. Y Cyngor Cefn Gwlad sy’n
gweinyddu arfordiroedd Cymru,
ac mae 42% o arfordiroedd y wlad yn cael eu diogelu fel rhan o’r
cynllun.
- Gwarchodfeydd Biosffer.
Prif bwrpas y
safleoedd hyn yn ceisio ein cynorthwyo i ddeall sut y gall
gweithgareddau dynion effeithio ar y biosffer.
Dynodiadau rhyngwladol a wneir gan UNESCO ydyn nhw, sef Mudiad
Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig, a
chânt eu seilio ar enwebiadau a wneir gan fwy na 110 o wledydd.Mae
gan Gymru un warchodfa a gydnabyddir yn rhyngwladol, a diben hon yw
ceisio ein cynorthwyo i ddeall sut y mae ein ffordd o fyw yn
effeithio ar y tir, yr awyr a’r dŵr o’n cwmpas.
- Gwarchodfeydd Biogenetig.
Mae’r
gwarchodfeydd hyn yn tynnu sylw at y darnau hynny o dir sy’n hynod
bwysig i fywyd gwyllt.
- Coetiroedd Hynafol a Lled-naturiol.
Mae coetiroedd hynafol a lled-naturiol yn rhan hollbwysig o’n
treftadaeth. Maen nhw’n darparu amrywiaeth o gynefinoedd sy’n
cynnal amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid.Gwelir bod
goroesiad nifer o rywogaethau coetiroedd yn dibynnu’n llwyr ar
barhad y cynefinoedd hyn.
Sylwer: rydym yn bwriadu ychwanegu mwy o setiau
data ar-lein – felly cofiwch chwilio eto.