Nod Gwarchodfeydd Biogenetig yw cadw fflora,
ffawna ac ardaloedd naturiol Ewrop, yn enwedig rhostiroedd a
glaswelltiroedd sych sydd, er eu bod yn gyffredin mewn un wlad,
efallai’n brin mewn gwlad arall.
Felly cedwir cronfa o ddeunydd genetig –
genynnau planhigion ac anifeiliaid – at y dyfodol, a dyma pam y
defnyddir y term biogenetig.
I gael eu hystyried i fod yn warchodfa o’r
fath, yn gyntaf mae’n rhaid i safleoedd yn y DU fod yn SoDdGA neu’n
safle dynodedig o fath arall.
Arweiniodd Cytundeb Bern yn 1982 at sefydlu’r
rhwydwaith Ewropeaidd hwn o Warchodfeydd Biogenetig.