Mae Gwarchodfeydd Natur Morol yn ffordd o gadw
cynefinoedd a bywyd gwyllt morol, a nodweddion eraill ar hyd glan y
môr neu ar wely’r môr, sy’n arbennig o bwysig.
Sefydlwyd Sgomer, GNF gyntaf Cymru a’r unig
GNF yma, yn 1990 ac mae o gwmpas ynys Sgomer a Phenrhyn Marloes yn
y De Orllewin.
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn
rhoi’r pŵer i’r Cyngor Cefn Gwlad wneud cais i Brif Weinidog
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) i ddynodi GNF. I roi rhywfaint o
warchodaeth, gall GNF gael ei rheoli gan is-ddeddfau, sy’n cael eu
creu trwy drafodaethau a chydgytundebau gyda phawb sy’n
gysylltiedig, ac sy’n cael eu cymeradwyo gan CCC.
Mae GNM yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i
warchod ein moroedd trwy greu ymwybyddiaeth o ba mor fregus a
gwerthfawr yw’n treftadaeth forol naturiol.