Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol (Safleoedd Ramsar)

Wrth gadarnhau’r Cytundeb yn 1976, derbyniodd llywodraeth y DU ymrwymiad i hyrwyddo cadwraeth safleoedd gwlyptirol o bwysigrwydd rhyngwladol o fewn ei thiriogaethau.

Mae gwlyptiroedd yn hollbwysig i lawer o fathau o adar, yn enwedig adar dŵr, ac mae gan Gymru rai safleoedd campus sy’n hanfodol i lawer o blanhigion ac anifeiliaid gwlyptirol oroesi.

Gall safleoedd gwlyptirol fod yn ddarnau o gors, ffen, mawndir neu ddŵr agored; naturiol neu artiffisial; parhaol neu dros dro; â dŵr sy’n groyw, yn lled hallt neu’n hallt. Gallant hefyd gynnwys darnau bas o’r môr. Mae pob safle Ramsar hefyd yn SoDdGA.

Mae gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol yn cael eu nodi gan y Cyngor Cefn Gwlad, ar y cyd gyda Chydbwyllgor Gwarchod Natur y DU, ac yn cael eu dynodi gan Brif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ein safleoedd eraill
Help

Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim SGDd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen