Countryside Council for Wales (CCW) home page | Noddir gan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Tirlun a bywyd gwyllt

Gwybodaeth Dechnegol

Mae’r canlynol yn rhoi manylion technegol am y data SGDd, gan gynnwys trwyddedu, fformat y data, metaddata a chywirdeb y data.

Gwybodaeth Dechnegol

Trwyddedu Data

Bydd angen cytuno ar drwydded data cyn y gellir lawrlwytho’r data. Bydd y drwydded yn gofyn i chi dderbyn rhai telerau ac amodau penodol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r data.

Fformat y data

Mae’r holl setiau data ar gael i’w lawrlwytho naill ai yn fformat MapInfo .Tab neu yn fformat ESRI .shp

Metadata

Bydd metadata sy’n rhoi manylion graddfa/cydraniad, dyddiad y cipio, nodiadau priodoli ac ati’n dod gyda’r holl setiau data a ddarperir.

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi mabwysiadu safon metadata ISO 19115, a chynhyrchwyd y metadata, sy’n cael ei ddosbarthu gyda’r data GIS, trwy ddefnyddio meddalwedd MetaGenie v2. Mae hwn ar gael ar GIGateway y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol (Association for Geographic Information).

Cywirdeb y data

  • Ffiniau
    Mae ffiniau’r Safle’n diffinio maint arwynebedd y tir dan warchodaeth. Efallai y bydd darnau wedi’u heithrio o fewn ffiniau’r Safle.

    Efallai y bydd ffin y Safle’n dilyn nodwedd sydd wedi’i mapio ar fap yr Arolwg Ordnans (OS), megis gwrych neu nant, neu efallai y bydd yn ‘anniffiniedig’. Efallai y bydd yn dilyn nodwedd megis y Marc Distyll Cymedrig sy’n debyg o newid.

  • Graddfa sylfaenol cipio data
    Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd wedi cael eu digido gan ddefnyddio raster digidol OS Landline 1:2500 neu i OS 1:10000 fel canllaw. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei phriodoli yn y tablau data.

    Gall defnyddio’r data i fapio neu mewn GIS ar raddfeydd eraill ac eithrio’r rhai a nodir uchod arwain at ganlyniadau anrhagweladwy.

  • Systemau Cyfesurynnau
    Mae’r data’n cael ei gipio gan ddefnyddio’r system cyfesurynnau Cartesaidd ar y Grid Cenedlaethol Prydeinig.

  • Cywirdeb y llinell wedi’i digido
    Pan ddefnyddiwyd OS Landline i gipio data yn unol â hi, caiff ei snapio ar bob nod, lle bo’n briodol.

    Yna mae’r data’n cael ei gipio yn unol â raster OS 1:10000. Y nod yw +- 0.2 milimetr, wedi’i seilio ar hen safon lluniadu cartograffig yn nyddiau ysgrifbin ac inc, sy’n trosi i 0.5 metr ar y llawr pan y’i defnyddir i gynhyrchu mapiau ar raddfa 1:2500.

  • Sicrhau Ansawdd
    Mae digido’n cael ei wneud gan ddefnyddio amgylcheddau rheoledig er mwyn sicrhau’r dopoleg gywir. Mae plotiau’n cael eu gwneud a’u gwirio yn erbyn y deunydd ffynhonnell.

  • Gwella Cywirdeb Lleoliad (GCL)
    Ar hyn o bryd nid yw setiau data ein Safleoedd dan Warchodaeth wedi cael eu cywiro i fodloni’r rhaglen GCL, ond fe fydd fersiynau a gaiff eu rhyddhau yn y dyfodol.

    I gael rhagor o fanylion am GCL ewch i wefan yr Arolwg Ordnans.
Ein safleoedd eraill
Help
Cysylltu â’r Tîm
cyfeiriad e-bost
Postal address
Tim SGDd
C/O Ymholiadau
CCGC
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Rhif ffôn
0845 1306229
Adborth y dudalen